Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro, a diolch yn fawr iawn i Mike am ddod â'r ddadl yma ger ein bron. Dwi wedi'i mwynhau'n arw, hyd yma, beth bynnag, a dwi eisiau cyfyngu fy nghyfraniad rhyw ychydig, os caf i. Ond mae'n ddadl amserol iawn, yn enwedig wrth ystyried, y rhai ohonoch chi a fydd yn cofio'r haf diwethaf, y drafodaeth fuodd yn Nwyfor Meirionydd am Gapel Tom Nefyn, Pistyll, efo'r gymuned yno yn trio achub y capel yno ar gyfer budd cymunedol, ond yn y diwedd y capel yn cael ei brynu ac yn mynd i gael ei ddatblygu yn dŷ haf. Felly, mae'n rhaid i ni edrych hefyd at ddibenion cymunedol yr adnoddau yma.
Mae'n ddadl sy'n bwysig i mi'n bersonol hefyd am sawl rheswm. Yn gyntaf, dwi'n fab i weinidog, ac wedi mynychu sawl capel ar hyd fy oes. Dwi hefyd yn bregethwr lleyg, neu mi oeddwn i cyn cael fy ethol, ac mae'n drist dweud bod y tri chapel diwethaf imi bregethu ynddynt bellach wedi cau. Dwi ddim yn gwybod ydy hwnna mewn gwirionedd yn dweud rhywbeth am fy mhregethu i yn fwy na'r cynulleidfaoedd, neu ddiffyg cynulleidfaoedd, a oedd yn mynd yno. Mae'r capeli yna bellach yn eistedd yn wag, ac un wedi'i droi mewn i swyddfeydd.
Hefyd mae gen i ddiddordeb teuluol yn y peth. Roedd fy ewythr i, Dewi-Prys Thomas, yn bensaer nodedig, ac mi oedd o'n bencampwr i gapeli Cymru. Mae ysgolheigion o'r tu allan i Gymru wedi dadlau erioed nad oes yna fath beth â phensaernïaeth Gymreig, ond roedd Dewi-Prys Thomas yn anghytuno. Roedd o'n dadlau bod yr hen gapeli bach Cymreig yn enghreifftiau perffaith o bensaernïaeth werinol Cymru, efo'r capel yn ganolbwynt cymunedol yn tynnu pobl ynghyd. Felly, mae yna werth pensaernïol i'r adeiladau hynny.