Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae addoldai wedi gwneud cyfraniad anfesuradwy i fywyd Cymru: maent wedi dysgu miloedd o blant i ddarllen ac ysgrifennu; roeddent yn meithrin yr ymdeimlad cryfaf posibl o gymuned; roeddent yn darparu llwyfan hanfodol ar gyfer diwylliant Cymru; roeddent yn aml yn ymgyrchu dros hawliau gweithwyr ac yn darparu gwasanaethau lles pan oedd llywodraeth yn cynnig y nesaf peth i ddim.