Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl y prynhawn yma oherwydd ei bod mor bwysig ac mor hynod o amserol. Yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, rydym wedi siarad ar sawl achlysur am ddiogelu'r cyflenwad bwyd ac arwyddocâd hynny yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin. Wel, nawr yw'r amser i siarad yn lle gweithredu—neu weithredu yn lle siarad, yn hytrach. Cawn gyfle gwirioneddol yma i droi’r gornel a sicrhau y daw Cymru yn genedl hunangynhaliol nad oes raid iddi ddibynnu cymaint ar nwyddau a fewnforir.
Yn wir, rydym i gyd wedi gweld drosom ein hunain pa mor ansicr y gall y gadwyn gyflenwi fyd-eang fod, yn enwedig mewn perthynas â ffermio. Os nad yw’n gyflenwadau ynni, sy'n chwarae rhan hollbwysig yn seilwaith bwyd y DU, mae’n bris gwrtaith, sy'n fewnbwn allweddol yng nghynhyrchiant y ffermwr. Pan welwn y cyflenwad yn tynhau’n ddifrifol, mae'n arwain at ostyngiad yn allbwn nwyddau, ond nid dyma'r unig ffactorau. Caiff Wcráin ei hadnabod fel basged fara Ewrop am reswm da. Gyda'i gilydd, Wcráin a Rwsia sy’n cynhyrchu 30 y cant o wenith y byd a 50 y cant o allforion olew blodau’r haul, hadau a blawd y byd. Mae’r sefyllfa yn nwyrain Ewrop eisoes wedi gweld prisiau’n codi’n aruthrol, a disgwylir i hyn gael effaith uniongyrchol ar brisiau bwyd i ddefnyddwyr a chost cynhyrchu da byw, sefyllfa nad yw’r Llywodraeth hon wedi paratoi ar ei chyfer o gwbl. Dyna pam rwy’n hynod siomedig o weld y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn cyflwyno gwelliannau yn erbyn y cynnig hwn, ac ni fydd hynny’n syndod i’r Siambr hon.
Rwyf eisoes wedi siarad unwaith am gyfle, ac mae hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynhyrchiant bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan osod yr hyn y gall ei wneud ar y llyfr statud. Yn wir, gallwn adeiladu ar ein cyfradd cynhyrchu bwyd domestig o 60 y cant, a sicrhau bod diogelu'r cyflenwad yn dod yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Ac eto, yn anffodus, mae ffocws y Llywodraeth hon wedi'i ystumio. Ar y naill law, maent yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol i newid y cynnig hwn, i feirniadu Llywodraeth y DU, i ymosod ar gytundebau masnach, ac ar y llaw arall maent yn gwrthod cydnabod bod cynhyrchiant bwyd yn nwydd cyhoeddus ac yn gwrthod cynnig y cymorth y maent ei angen i'n ffermwyr gweithgar. A phan fydd polisi Llywodraeth Cymru yn arwain at gynyddu'r pwysau ar ein ffermwyr, a gostyngiad yn ein cynhyrchiant a diogelwch ein cyflenwad bwyd ein hunain hyd yn oed, deuwn yn fwy dibynnol ar fewnforion—yr union rai y mae'r Llywodraeth hon am eu beirniadu. Rhagrith yw hyn ar ran y Llywodraeth Lafur hon. [Torri ar draws.] Efallai ei fod yn 'rubbish' i'r Aelod o'r cefn, yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ond dim ond drwy gynyddu ein cynhyrchiant bwyd ein hunain y gallwn wneud Cymru'n llai dibynnol ar fewnforion ac yn fwy gwydn rhag ergydion yn y system fyd-eang, rhywbeth y mae'r cynnig hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef yn benodol.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio bod ein ffermwyr Cymreig yn enwog yn eu hawl eu hunain. Hwy sy'n cynhyrchu'r bwyd mwyaf ecogyfeillgar, cynaliadwy ac o'r ansawdd gorau ar y farchnad, ac mae'r cyhoedd yn cydnabod hyn. Dylem fod yn gweiddi o'r toeon i gefnogi cynnyrch amaethyddol Cymru. Drwy gydol y pandemig, gwelsom ymateb y wlad i gau ein sector gwasanaethau. Ni throdd pobl Cymru eu cefnau ar gynnyrch a dyfir yn lleol—roeddent yn ciwio y tu allan i'w siopau cigydd lleol i sicrhau y gallent brynu toriadau blasus o gig eidion a chig oen Cymru o'r radd flaenaf. Mae'r cyhoedd ym Mhrydain wedi dysgu a deall gwerth cig a llysiau lleol. Cymerwch datws Blas y Tir sir Benfro, er enghraifft—ni ddaw miloedd o filltiroedd awyr i'w canlyn nac allyriadau teithio cynnyrch a fewnforiwyd o rannau eraill o Ewrop neu weddill y byd. Ond yn yr un modd, nid ydynt ychwaith mor ddibynnol ar y sefyllfa geowleidyddol yn nwyrain Ewrop, de-ddwyrain Asia ac Awstralia ychwaith. Cânt eu tyfu'n lleol, eu codi gan ffermwyr lleol, a'u prynu gan bobl ledled Cymru. A gadewch inni fod yn gwbl glir, nid ydym am ddiwydiannu ein sector ffermio; yr hyn yr ydym am ei wneud yw sicrhau bod cynhyrchiant bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel yn cael ei ddatblygu fel bod bwyd o Gymru ar gael i bobl Cymru, a dyna pam y mae'r cynnig hwn gyda ni y prynhawn yma, a dyma y mae'r cynnig yn ceisio'i wneud.
Bydd y Bil amaethyddol yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y gwanwyn, felly dyma ein cyfle i newid cyfeiriad a mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Mae gennym ddau opsiwn: gallwn naill ai barhau ar yr un trywydd o osgoi'r sefyllfa geowleidyddol gyfnewidiol, neu gallwn droi at ein cymuned amaethyddol a rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen iddynt. Gallwn gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig wedi'i wneud i iechyd a ffyniant ein gwlad, a rhoi sicrwydd iddynt allu parhau i wneud hynny. Mae angen ffrind ar ffermio ac am unwaith, gadewch i'r lle hwn fod yn ffrind. Gadewch inni gael ein ffermwyr, ein proseswyr a'n manwerthwyr i eistedd o amgylch y bwrdd mewn uwchgynhadledd fwyd, gadewch inni ddefnyddio'r Bil amaethyddol i sicrhau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn nwydd cyhoeddus, gadewch inni gefnogi Bil bwyd rhagorol Peter Fox, a gadewch inni beidio â gwastraffu'r cyfle sydd ger ein bron. Diolch, Ddirprwy Lywydd.