Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch, Lywydd dros dro. Ac er mwyn y cofnod, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol—a dweud y gwir, rwy'n edrych ar wartheg y tu allan i'r ffenestr wrth imi eistedd yma. A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? A bod yn onest, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn rhywbeth y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol. Fel cymdeithas, rydym yn gyfarwydd at ei gilydd â mynd i archfarchnad, gwneud ein siopa wythnosol a dychwelyd adref heb feddwl fawr ddim ynglŷn â tharddiad ein bwyd a sut y caiff ei gynhyrchu. Ond mae digwyddiadau diweddar wedi creu storm berffaith ac wedi dod â diogelwch y cyflenwad bwyd i'r amlwg. Mae'r pandemig COVID-19 wedi achosi hafoc i gadwyni cyflenwi ledled y byd ac mae hyn wedi cael effaith ar argaeledd cynhyrchion yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn dechrau gweld effeithiau'r ymosodiad erchyll a diangen gan Rwsia ar Wcráin, gan godi prisiau a chyfyngu ar argaeledd mewnforion cynhwysion crai.
Rwy'n gresynu bod gwelliant Llafur wedi mynd ati'n amlwg i wleidyddoli'r mater dan sylw, ac nid yw'r iaith a ddefnyddir yn helpu dim ar adeg pan fo pobl yn chwilio am atebion gan bob Llywodraeth. Credaf hefyd fod gwelliant y Llywodraeth yn edrych yn fwy hirdymor ar y mater ac yn methu sôn am gamau y mae angen eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â phroblemau sy'n wynebu llawer o bobl ar hyn o bryd. Ac felly, yn hyn o beth rwy'n cefnogi galwadau, fel y nodwyd yn y cynnig sydd ger ein bron, am fwy o gydweithredu ar draws Llywodraethau a'r sectorau bwyd ac amaeth drwy uwchgynhadledd fwyd. Bydd hyn yn ein helpu i asesu lefelau diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i liniaru rhai o'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Fel y dadleuais o'r blaen yn y Siambr hon, mae ffermwyr yn dal i bryderu bod y cynllun ar gyfer helpu ffermwyr yn y dyfodol yn gogwyddo gormod tuag at dalu am nwyddau cyhoeddus, gyda diffyg cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru sy'n ceisio cynhyrchu bwyd fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd da i'n cymunedau. Hefyd, mae angen inni lacio rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu ffermwyr i'w galluogi i ddefnyddio mwy o'u tir ar gyfer cynhyrchu bwyd. Disgwylir i ffermwyr âr adael cyfran o'u tir yn fraenar, ond gyda mewnbynnau a gorbenion yn cynyddu ar raddfa frawychus, ni fydd llawer o ffermwyr yn gallu cynnal y lefelau cynhyrchiant presennol. Ac felly, bydd rhyddhau tir yn helpu i wneud iawn am y diffyg hwnnw mewn rhyw ffordd ac yn caniatáu i ffermwyr arallgyfeirio ychydig mwy.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn ailadrodd yr angen am sail ddeddfwriaethol gryfach i'r system fwyd yng Nghymru. Wrth ddatblygu fy nghynnig Bil bwyd, clywais dro ar ôl tro nad yw gwahanol rannau o'r system fwyd bob amser yn siarad â'i gilydd, a bod angen i lywodraethu bwyd a'r strategaeth ehangach wella os ydym am ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. A chredaf fod digwyddiadau diweddar wedi dangos sut y mae angen strwythurau ar waith a all ddod â chynhyrchwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, at ei gilydd i hyrwyddo cynlluniau strategol ac i hyrwyddo cadwyni cyflenwi cynaliadwy a gwydn yn fwy lleol. Edrychaf ymlaen at drafod y materion hyn gydag Aelodau a rhanddeiliaid wrth i fy Mil fynd drwy'r Senedd yn y dyfodol.
I orffen, Lywydd—Lywydd dros dro, mae'n ddrwg gennyf—rydym yn byw mewn cyfnod gofidus gyda chyfres o ddigwyddiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn dod at ei gilydd i greu heriau nad ydym wedi'u hwynebu ers degawdau. Nid oes ateb hawdd i'r pethau hyn; yn hytrach, rydym angen pecyn o fesurau i helpu i leddfu'r problemau gyda diogelu'r cyflenwad bwyd a welwn ar hyn o bryd. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni wella gwytnwch cadwyni cyflenwi lleol a rhoi camau ar waith i leihau ein dibyniaeth ar fewnforion o wledydd eraill, yn enwedig y rheini mewn rhannau o'r byd sy'n ansefydlog yn wleidyddol. A dyma lle mae angen y fframwaith deddfwriaethol arnom i greu cyfeiriad teithio cydlynol ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru, gan ddileu'r rhwystrau sy'n wynebu cynhyrchwyr Cymreig i'w helpu i ddiwallu anghenion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol heddiw. Gwn ein bod i gyd yn teimlo bod hwn yn faes pwysig iawn, a hoffwn pe na bai gwleidyddiaeth yn mynd o ffordd rhywbeth mor bwysig ac y gallem ddod at ein gilydd a chytuno ar rywbeth mor bwysig â'r cynnig hwn. Diolch, Lywydd dros dro.