7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Bwyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:46, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf ei bod yn deg dweud bod y pandemig, wrth gwrs, wedi achosi aflonyddwch byd-eang yn y ffordd yr ydych yn nodi. Fodd bynnag, cafodd eich Canghellor gyfle i wneud rhywbeth yn ei gylch heddiw ac ni wnaeth hynny. Nid yw £5 biliwn o bunnoedd i dynnu 5c oddi ar litr o danwydd yn werth dim i bobl nad oes ganddynt arian ar gyfer bwyd nac arian ar gyfer ynni neu sydd heb gar. 

Mae tlodi bwyd yn symptom anochel o dlodi yn gyffredinol, ac mae economi'r DU, o dan Ganghellor presennol y DU, wedi profi'r gostyngiadau termau real mwyaf mewn incwm ers dros bedwar degawd. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi penderfynu gosod y codiadau treth mwyaf, fel cyfran o incwm cenedlaethol, mewn unrhyw flwyddyn yn y tri degawd diwethaf. Bydd cymorth diweithdra yn gostwng i'w werth termau real isaf mewn mwy na thri degawd. Bydd tri chwarter yr aelwydydd sydd ar gredyd cynhwysol yn waeth eu byd y mis nesaf nag yr oeddent flwyddyn yn ôl. Ac mae ymateb y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi'i dargedu at yr argyfwng costau byw a grëwyd gan Blaid Geidwadol y DU.

Fis diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, becyn cymorth gwerth £330 miliwn, mwy nag unrhyw beth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n cynnwys taliadau costau byw uniongyrchol, taliadau tanwydd y gaeaf ychwanegol, a chyllid cymorth dewisol i gynghorau lleol. Ers 2019, rydym wedi buddsoddi £9 miliwn yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r sefydliadau cymunedol sy'n cefnogi tyfu, casglu, dosbarthu a rhannu bwyd yng Nghymru, o raglenni gwella gwyliau'r haf mewn ysgolion i brosiectau tyfu cymunedol a cheginau cymunedol. Addawodd maniffesto fy mhlaid ar gyfer yr etholiad fis Mai diwethaf ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol, ac mae ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ein hymrwymo i lunio'r strategaeth hon gyda'n gilydd.

Y mis hwn, cyfarfûm ag undebau ffermio, manwerthwyr bwyd, busnesau'r gadwyn gyflenwi, cyrff masnach y diwydiant, a fy nghymheiriaid o'r Llywodraethau eraill ledled y DU. Mae'r ymgysylltiad hwn yn rheolaidd ac mae'n ffordd bwysig o lywio a chyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'n heriau cyffredin. Rwy'n cydnabod nad yw'r Torïaid yma'n deall sut y mae Llywodraeth yn gweithio, ond nid oes arnom angen uwchgynhadledd fwyd. Mae'r trafodaethau a'r cyfarfodydd hyn yn digwydd fel mater o drefn; mae'n fusnes fel arfer. Ni fydd y strategaeth bwyd cymunedol yn disodli ymgysylltiad diwydiannol neu rynglywodraethol; yn hytrach, gall ymateb i ddymuniad cymunedau yma yng Nghymru i chwarae rhan fwy gweithredol wrth lunio'r system fwyd eu hunain. Dyna sut y bwriadwn fynd ati i'w datblygu, gan fabwysiadu dull gweithredu o'r gwaelod i fyny yn hytrach nag o'r brig i lawr.

Yr her fawr arall i ddiogelwch y cyflenwad bwyd sy'n ein hwynebu yng Nghymru, ac yn fyd-eang, nad yw mor amlwg efallai â gwrthdaro neu argyfyngau economaidd ond sy'n sicr yn fwy o ran ei maint, yw'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ymddengys nad yw'r Ceidwadwyr wedi deall eto nad dadflaenoriaethu camau gweithredu hirdymor ar natur a'r hinsawdd yw'r ffordd i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd yma yng Nghymru, fel y dangoswyd yn glir gan gyfraniad Janet Finch-Saunders. Mae argymhellion Llywodraeth Cymru ar drefniadau hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yn cael eu trafod fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yn y gwaith o'u datblygu hyd yma, rydym wedi ceisio adlewyrchu egwyddorion rheoli tir yn gynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Datblygwyd yr egwyddorion hynny wrth gwrs yng nghyd-destun mynd i'r afael â diogelwch y cyflenwad bwyd yn fyd-eang a rhoi diwedd ar newyn byd-eang. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gytuno nad dyma'r amser i roi'r gorau i'r egwyddorion hynny gan y Cenhedloedd Unedig na'n hymrwymiad i gynorthwyo ffermio yng Nghymru i fod yn fwy ystyriol o'r hinsawdd a natur nag unman arall yn y byd. Wrth ymateb i'r ddadl heddiw, byddwn yn croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr yn y Siambr hon i alw am newid y polisïau dinistriol a orfodwyd ar gynhyrchwyr bwyd Cymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Mae'r cytundeb masnach â Seland Newydd a negodwyd yn ddiweddar

'yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i danseilio ffermio a diogelwch cyflenwad bwyd y DU yn gyfnewid am fuddion dibwys i'r economi'.

Nid fy ngeiriau i, ond geiriau llywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Nid oes yr un o Aelodau Ceidwadol y Senedd wedi tynnu sylw hyd yma at benderfyniad cywilyddus Canghellor y DU i dorri eu haddewid maniffesto eu hunain ac amddifadu datblygu gwledig yma yng Nghymru o fwy na £200 miliwn o gyllid. Nodais fod rhai Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig wedi dechrau ymbellhau oddi wrth eu cymheiriaid yn Llundain, a gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon—