Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 29 Mawrth 2022.
Nesaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan eitemau 10, 11 a 12 yn cael eu grwpio i'w trafod, gyda phleidleisiau ar wahân. Y tri chynnig hynny yw'r Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022. Felly, a oes unrhyw wrthwynebiad i grwpio'r cynigion yma ar gyfer eu trafod, gyda phleidleisiau ar wahân? Da iawn. Does yna ddim gwrthwynebiad dwi'n ei weld.