Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ger ein bron. Fel y nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae achosion unwaith eto'n cynyddu'n gyflym ledled Cymru, sy'n cael ei ysgogi gan yr is-deip o amrywiolyn omicron BA.2. Mae'r canlyniadau diweddaraf o arolwg o heintiau'r coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gan un o bob 16 o bobl yng Nghymru COVID-19 yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 19 Mawrth. Roedd hynny 10 diwrnod yn ôl; mae'n fwy tebygol yn awr o edrych fel tua un o bob 13 neu 14. Roedd mwy na 1,300 o gleifion yn yr ysbyty am resymau yn ymwneud â COVID-19 ar 23 Mawrth; heddiw, y ffigur yw 1,492.
Ger ein bron heddiw mae tair cyfres o reoliadau diwygiedig. Yn gyntaf, Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022. Rhoddodd Deddf y Coronafeirws 2020, y Ddeddf, bwerau brys i Weinidogion Cymru ymateb i'r pandemig. Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020. Daeth y rhan fwyaf o'r darpariaethau dros dro yn y Ddeddf i ben ar ddiwedd y dydd ar 24 Mawrth. Mae pob Llywodraeth ledled y DU wedi cyflwyno rheoliadau sy'n ymestyn gwahanol ddarpariaethau yn y Ddeddf. Mae Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 yn ymestyn dwy ddarpariaeth dros dro am gyfnod o chwe mis ar y mwyaf hyd at 24 Medi 2022.
Mae'r coronafeirws gyda ni o hyd, a gallwn ni ddisgwyl i ragor o donnau o'r haint ac amrywiolion newydd ddod i'r amlwg. Gallai'r rhain fod yn fwy difrifol nag amrywiolion blaenorol, a gallen nhw feddu ar lefelau uwch o allu dianc rhag y brechlyn. Mae ymestyn y ddwy ddarpariaeth hyn yn rhan o'n gwaith cynllunio wrth gefn. Mae'r darpariaethau perthnasol yn adran 82, tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr, sy'n eu diogelu rhag fforffedu. Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ymestyn y cyfnod perthnasol pan na chaniateir gorfodi hawl i ail-fynediad neu fforffediad o dan denantiaeth fusnes am beidio â thalu rhent, er mwyn helpu busnesau y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw. Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, bydd y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) y rhoddodd y Senedd ganiatâd deddfwriaethol iddo ar 8 Mawrth, yn cefnogi landlordiaid a thenantiaid i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud â busnesau sydd â dyled rhent yr oedd yn ofynnol iddyn nhw gau yn ystod y pandemig. Roedd angen i ni allu ymestyn y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws pe bai wedi dod i ben cyn i'r Bil rhent masnachol gael Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, daeth y Bil rhent masnachol i rym ar 24 Mawrth ac, o'r herwydd, gallaf gadarnhau na fyddwn yn defnyddio'r darpariaethau hyn.
Adran 38, Atodlen 17, parhad dros dro, addysg a hyfforddiant a gofal plant. Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau parhad dros dro i sefydliadau addysgol, darparwyr gofal plant cofrestredig ac awdurdodau lleol i helpu i reoli'r tarfu ar ddysgu yn ystod y pandemig. Mae ymestyn y darpariaethau addysg hyn yn fesur wrth gefn i raddau helaeth, ac nid ydym yn bwriadu nac yn disgwyl defnyddio'r darpariaethau hyn yn y cyfnod estynedig o chwe mis. Byddai unrhyw gynnig i ddefnyddio'r pwerau o fewn y darpariaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau pellach, a fyddai, wrth gwrs, yn destun craffu gan y Senedd. Byddai'r Aelodau'n cael cyfle bryd hynny i ystyried cymesuredd a phriodoldeb unrhyw fesurau y byddem yn eu cynnig yn y cyfnod estynedig o chwe mis.