Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bu farw saith deg dau o bobl yn nhân Tŵr Grenfell. Hwn oedd y tân strwythurol mwyaf angheuol yn y Deyrnas Unedig ers 30 mlynedd, ac fe wnaeth amlygu methiannau difrifol yn y systemau rheoleiddio o ran diogelwch adeiladau. Mae adolygiad y Fonesig Judith Hackitt wedi ceisio mynd i'r afael â'r methiannau hyn, ac roedd argymhellion ei hadroddiad yn perthyn i ddau gategori: gwaith dylunio ac adeiladu adeiladau ac yna eu meddiannaeth. Mae'r cynnig hwn yn ymdrin â'r cyntaf o'r rhain ac mae hefyd yn mynd i'r afael â hawliau gwneud iawn i brynwyr tai, gan gynnwys y rhai sy'n dioddef canlyniadau diffygion adeiladu.
Y diwygiadau yn y Bil i'r system rheoli adeiladu yw'r gyfres fwyaf cynhwysfawr o newidiadau ers Deddf Adeiladu 1984. Eu bwriad yw atal tân Grenfell rhag digwydd yn y dyfodol. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio i sicrhau triniaeth deg i'r rhai sy'n wynebu gwaith adfer y fflatiau maen nhw’n byw ynddyn nhw. Dyna pam rydym ni wedi cyhoeddi y bydd arolygon a phasbortau adeiladu yn cael eu hariannu, ac y byddan nhw'n llywio'r cymorth sydd ei angen. Mae'n ffaith y gallai'r feirniadaeth a roddwyd i'r system yn Lloegr gan y Fonesig Judith fod ar yr un mor berthnasol yng Nghymru. Am y rheswm hwn, rydym ni wedi mynd ati i geisio cynnwys gwelliannau i Fil Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU i adlewyrchu anghenion Cymru. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaeth o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed y dylai hwn fod wedi bod yn Fil Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r Bil hwn yn gyfle pragmatig i gymryd camau cynharach yn ein hymdrechion i ymateb i'r materion hyn.
Bydd y drefn newydd yn darparu ar gyfer rheoleiddio adeiladau risg uwch yn llymach yng Nghymru. Rwyf wedi nodi o'r blaen fod adeilad risg uwch yng Nghymru yn adeilad â llawr o 18m neu fwy, neu saith llawr. Bydd pwerau i newid y diffiniad hwn os bydd rhagor o dystiolaeth yn llywio ein barn ar risg a nodweddion adeiladau. Mae'r Bil yn rhoi gofynion ar waith a fydd yn sicrhau na allwch chi ddewis eich corff rheoli adeiladau ar gyfer adeiladau risg uwch mwyach. Yng Nghymru, bydd timau rheoli adeiladau yr awdurdodau lleol yn cyflawni'r gwaith hwn fel estyniad i'w dyletswyddau presennol. Bydd gan adeiladau system glir o gamau porth, o'r cam dylunio, adeiladu, i'r cam meddiannaeth gychwynnol. Bydd mannau aros ar wahanol gamau yn atal gwaith rhag parhau heb dystiolaeth bod diogelwch adeiladau yn cael sylw priodol.
Yn ogystal â'r system ei hun, mae pobl hefyd yn hollbwysig o ran diogelwch adeiladau. Bydd y Bil yn rhoi gofynion newydd ar waith ar gyfer deiliaid dyletswydd, er enghraifft ar y cleientiaid, y dylunwyr a'r contractwyr sy'n cynllunio, yn rheoli ac yn ymgymryd â gwaith adeiladu. Byddan nhw'n gyfrifol am nodi a lliniaru risgiau diogelwch adeiladau drwyddi draw. Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno darpariaethau newydd i ddarparu ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladau a chyrff sy'n goruchwylio gwaith adeiladu. Yn ogystal â system orfodi fwy cadarn, mae'r Bil yn helpu i wella hawliau gwneud iawn, gan gynnwys lle y daw'n amlwg bod gwaith is-safonol wedi ei wneud ar ôl meddiannu cartref.
Prynu cartref yw un o'r ymrwymiadau ariannol mwyaf y mae llawer o bobl yn ei wneud yn eu bywydau, ac mae'n gwbl annerbyniol i brynwyr barhau i aros i faterion gael sylw fisoedd ar ôl symud i mewn, neu i ddiffygion wneud cartref yn anaddas. Er y dylai perchnogion cartrefi ddisgwyl i gartref fod o ansawdd da ar y diwrnod y maen nhw’n symud i mewn, mae cael proses glir sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr weithredu'n gyflym i unioni materion yn bwysig o ran amddiffyn perchnogion cartrefi. Rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn drwy'r newidiadau i Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, a chreu Ombwdsmon Cartrefi Newydd. Bydd darpariaethau'r Ddeddf Mangreoedd Diffygiol yn cael eu hymestyn o anheddau newydd yn unig i gynnwys gwaith adnewyddu ac estyniad anheddau sy'n bodoli eisoes a fydd yn cael ei wneud gan fusnes. Bydd hefyd yn ymestyn y cyfnod cyfyngu ar gyfer hawliadau o chwech i 15 mlynedd yn yr arfaeth, ac o chwech i 30 mlynedd yn ôl-weithredol.
Mae'r Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn cael ei gyflwyno o ganlyniad i feirniadaeth o'r diwydiant adeiladu tai, o ran ansawdd ei waith adeiladu a'r cofnod o wasanaeth cwsmeriaid. Bydd yr ombwdsmon yn darparu ar gyfer datrys anghydfodau ac yn penderfynu ar gwynion a wneir gan y rhai sydd â buddiant perthnasol mewn cartrefi newydd yn erbyn datblygwyr. Mae cod ymarfer, sy'n nodi safonau ymddygiad ac ansawdd gwaith, yn un o nodweddion yr ombwdsmon, er mwyn sicrhau bod datblygwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddyn nhw, a bod y rhai sy'n prynu cartref yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu tai yn talu costau'r ombwdsmon newydd ac, ar ôl ei sefydlu, bydd y gwasanaeth am ddim i'r rhai sy'n cyflwyno cwynion.
Llywydd, i grynhoi, mae'r diwygiadau hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol a godwyd gan y Fonesig Judith Hackitt, ac yn creu system reoli newydd i Gymru sy'n darparu fframwaith clir a chadarn i sicrhau bod y diwydiant adeiladu yn adeiladu cartrefi sy'n ddiogel, ac a fydd yn darparu llwybr effeithiol at wneud iawn os bydd pethau’n mynd o chwith. Diolch.