Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 29 Mawrth 2022.
fodd bynnag, brynhawn Gwener diwethaf y cyflwynwyd memorandwm Rhif 5, sy'n golygu nad yw unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd wedi craffu arno. Mae hyn yn amlwg yn peri rhwystredigaeth, fel y mae fy nghyd-Aelod John Griffiths, Cadeirydd fy nghyd-bwyllgor, wedi sôn amdano, ac mae'n destun gofid.
Er bod ein dau adroddiad yn rhoi sylwadau ar ddarpariaethau penodol yn y Bil, y prynhawn yma rwy’n canolbwyntio ar y sylwadau helaeth yn ein hadroddiadau ar ddull cyffredinol Llywodraeth Cymru o geisio defnyddio Bil sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU sy'n pasio drwy Senedd wahanol mewn lle gwahanol i ddeddfu ar gyfer Cymru ar faterion sydd wedi eu datganoli'n llwyr—unwaith eto, mater y cyfeiriodd fy nghyd-Gadeirydd, John Griffiths ato hefyd yn ei sylwadau heddiw. Mae hyn yn fyrdwn cyfarwydd, rwy'n gwybod, i Weinidogion Llywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon, ac mewn gwirionedd dywedodd y Gweinidog heddiw ei fod yn cydnabod hyn yn ei sylwadau agoriadol. Rwy’n teimlo weithiau bod Gweinidogion yn gyfrinachol yn cytuno â ni yn eu munudau tawel pan fyddan nhw’n gorffwys eu pen ar eu gobennydd, ac ar ryw adeg maen nhw’n mynd i symud i ddweud hynny'n glir a gweithredu yn y ffordd honno hefyd.
Rydym yn pryderu ynghylch goblygiadau cyfansoddiadol cronnol dull gweithredu Llywodraeth Cymru, ac nid oherwydd yr effaith bosibl ar ddatganoli yn unig y mae hynny, ni waeth beth fo'r materion sy'n ymwneud â hwylustod ac yn y blaen. Ond mae hefyd o ran hygyrchedd y gyfraith i'n dinasyddion. Nawr, rwy'n gwybod nad yw'r Gweinidog ei hun yn gallu bod yma gyda ni y prynhawn yma ond, o ran sylwadau'r Gweinidog o'r blaen fod llawer o weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu yn gweithio yng Nghymru a Lloegr a bod rhinwedd felly i ddarpariaethau tebyg fod yn berthnasol i'r ddwy wlad, rydym yn deall hynny, ond nid ydym yn gweld pam na ellid cyflawni'r gyfraith gyffredin ledled Cymru a Lloegr drwy Fil Senedd, gyda'r craffu llawn y cyfeiriodd fy nghyd-Gadeirydd ato. Rydym ni hefyd yn aneglur ynghylch sut mae gofyn am ddarpariaethau i Gymru mewn Bil y DU, yn ogystal â chynllunio ar gyfer Bil Cymru yn y dyfodol i fynd i'r afael â materion eraill sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau, yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i wella ansawdd a hygyrchedd cyfraith ddwyieithog Cymru. Mae'n egwyddor y mae'r Llywodraeth yn sefyll arni. Rydym ni am eu gweld yn cadw at hynny.
Nawr, fe wnaeth y Gweinidog fynegi i ni—ein pwyllgor—faterion capasiti yn Llywodraeth Cymru fel un rheswm dros ddefnyddio Biliau'r DU i ddeddfu ar gyfer Cymru. Ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan y ddadl hon i ddyrannu adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a phasio Bil y DU drwy Senedd y DU yn hytrach na dyrannu'r adnoddau hynny i gyflwyno Bil i Gymru, hyd yn oed ar yr un pryd, drwy ein Senedd ni. Rydym ni o'r farn bod y rhesymu a'r dull gweithredu yn ddryslyd, o gofio y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r cyfarwyddiadau polisi ar gyfer y cymalau pwrpasol perthnasol yn y Bil, ac wedi hynny gwneud sylwadau ar gymalau drafft a baratowyd gan gwnsler cyfreithiol Llywodraeth y DU beth bynnag. At hynny, mae'n amlwg bod gwaith rhynglywodraethol wedi parhau tra bo'r Bil yn mynd rhagddo drwy Senedd y DU, a fydd hefyd, ynddo'i hun, wedi bod yn destun ymrwymiadau amser ac adnoddau.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ein bod yn dal yn bryderus iawn ynghylch ei gallu, os yw hyn yn broblem, i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, ac rydym yn mynd ar drywydd y mater hwn ar draws Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond mae gennym ni bryderon hefyd y gallai Llywodraeth Cymru, wrth fynd ar drywydd y dull hwn, fod wedi colli cyfle arall i ddefnyddio'r system gyfiawnder sydd gennym ni eisoes yng Nghymru i ymdrin â materion y gallai darpariaethau cynllun yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd ymdrin â nhw, sydd wedi eu nodi ym memorandwm Rhif 3.
Gadewch i mi droi yn awr at fater yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn ddiffyg democrataidd sy'n dod i'r amlwg a achosir gan ddewisiadau deddfwriaethol penodol gan Lywodraeth Cymru. Yn ein hail adroddiad, fe wnaethom nodi bod nifer o welliannau wedi eu gwneud i'r Bil sy'n golygu y bydd gan Weinidogion Cymru rôl ymgynghorol bellach cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pwerau penodol i wneud rheoliadau. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud mewn llawer o adroddiadau eraill ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau'r DU, nid yw rôl i Weinidogion Cymru, boed hynny'n rôl ymgynghorol neu'n rôl gydsynio, cyn i un o Weinidogion y DU arfer pŵer i wneud rheoliadau sydd wedi ei gynnwys mewn Bil y DU, yw mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd cynhenid sy'n golygu bod y Senedd wedi ei heithrio rhag llunio a chytuno i gyfraith a fydd yn berthnasol yng Nghymru. Rydym ni’n glynu'n gryf wrth hyn.
Argymhelliad—. Llywydd, rwy'n ymddiheuro, rwyf wedi mynd ychydig dros amser; byddaf yn dod i fy nghasgliadau yn gyflym yma. Roedd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf yn gofyn i'r Gweinidog geisio gwelliannau i'r Bil i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael pwerau cychwyn cyfatebol sy'n ymwneud â'r darpariaethau ar gyfer Cymru i'r rhai a roddir eisoes i'r Ysgrifennydd Gwladol, fel bod gan Weinidogion Cymru reolaeth lwyr o ran pryd y daw'r darpariaethau ar gyfer Cymru i rym. Felly, rydym ni wedi ein siomi gan ymateb y Gweinidog i'r argymhelliad hwnnw nad yw'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol ac na fyddai'n mynd ar drywydd gwelliannau o'r fath. Nid ydym ni yn gweld bod rhoi'r gorau i'r rheolaeth hon yn briodol o gwbl, ac mae gwrthgyferbyniad yma â'r dull y mae Gweinidogion eraill yn ei ddefnyddio ar gyfer Biliau eraill o fewn y tymor Senedd. Ond, fel y gwnaethom ei nodi, rydym ni’n anghytuno'n barchus â'r penderfyniad cyffredinol i ddefnyddio Bil y DU i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru, ni waeth beth fo'u hwylustod na'u hadnoddau, am y rhesymau yr ydym ni wedi eu rhoi. Ni ddylai pa bynnag asesiadau a gynhaliwyd o ran manteision ymarferol manteisio ar y cyfle fod yn drech na mandad democrataidd y Senedd ac atebolrwydd canlyniadol Llywodraeth Cymru i'r Senedd hon. Felly, rydym yn dal i bryderu'n fawr am y dull hwnnw mewn llawer o Filiau.
Llywydd, ein hadroddiad ar femoranda Rhif 3 a Rhif 4 ar gyfer y Bil hwn oedd y chweched adroddiad ar hugain ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol y mae ein pwyllgor wedi eu cyflwyno mewn saith mis. Cyn bo hir, byddwn yn gosod ein seithfed ar hugain. Nawr, i nodi, nid yw'r ystadegau hyn i'w croesawu'n arbennig, ond mae angen tynnu sylw atyn nhw, gan nad yw'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud ar gyfer Cymru yn cael ei gwneud yng Nghymru ar hyn o bryd.