Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 29 Mawrth 2022.
A ydych chi'n credu, o ystyried y delweddau yr ydym ni'n eu gweld dro ar ôl tro ar y teledu, a gyflawnwyd yn enw Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ei bod islaw'r Aelod i gymharu gweithredoedd Llywodraeth y DU â'r unben hwnnw? Gofynnaf i chi ystyried y sylwadau hynny yr ydych newydd eu gwneud.