1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 1:43, 29 Mawrth 2022

Trefnydd, a gaf i ddatganiad ar gysylltedd digidol mewn ardaloedd gwledig, sy'n effeithio'n fawr, wrth gwrs, ar drigolion yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru? Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae'r arian ychwanegol, y top-up, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi i'r system talebau gan Lywodraeth San Steffan yn dod i ben ddydd Iau yr wythnos yma, ac mae hynny, wrth gwrs, yn peri ansicrwydd mawr iawn, achos dwi wedi cael nifer o bobl yn cysylltu â fi dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn cwyno bod y ddarpariaeth mewn rhai ardaloedd gwledig yn dal i fod yn anfoddhaol. Mae cynghorau cymuned, er enghraifft, wedi cysylltu i nodi nad oes modd iddyn nhw gynnal cyfarfodydd rhithiol neu hybrid oherwydd diffyg cysylltedd band llydan digonol, ac unigolion, wrth gwrs, a busnesau hefyd wedi cysylltu yn cwyno yn yr un modd. Nawr, dwi'n gwybod bod y top-up yma yn dod i ben ac rydych chi'n adolygu'r system talebau. Felly, a oes modd i ni gael datganiad ynglŷn â beth ydy bwriadau'r Llywodraeth i gefnogi'r math o gymunedau sy'n dal yn dioddef, ar gyfer sicrwydd i'r dyfodol? Diolch yn fawr.