Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae degawd o fesurau cyni yn golygu nad yw’r cartrefi tlotaf yng Nghymru yn gallu ymdopi â’r argyfwng costau byw. Yn natganiad y gwanwyn, roedd gan y Canghellor gyfle i roi cymorth hanfodol i’r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Gadael y bobl hynny i lawr wnaeth e, ac roedd hynny’n anfaddeuol.