Datganiad y Gwanwyn gan y Canghellor

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 2:08, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Nid oeddwn i'n disgwyl i'r Aelodau yn y Siambr hon groesawu datganiad y gwanwyn, ond roedd llawer o bethau cadarnhaol dros ben, er nad oes gen i gyfle i'w codi nhw yma. [Torri ar draws.] Mae'r cyfuniad o argyfyngau digynsail—pandemig COVID-19, ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin—wedi arwain at bwysau chwyddiant sylweddol sydd wedi eu teimlo ar draws cymdeithas—[Torri ar draws.]