Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:29, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r Dirprwy Lywydd wedi fy hysbysu yn ddibynadwy mai ar ben Llundain yr oedd y broblem yn awr, ac onid dyna'r pwynt? Nid yw'n ddigon da dweud, 'O, bydd popeth yn iawn pan fydd Llywodraeth Lafur', pan nad yw Cymru erioed, ers y Ddeddf Ddiwygio, erioed wedi ethol mwyafrif o ASau Torïaidd, ac eto bu gennym ni Lywodraethau Torïaidd am fwy na dwy ran o dair o'r amser. Mae Sefydliad Bevan wedi dadlau'n gryf yn ddiweddar dros ddatganoli grym dros fudd-dal tai a'r elfen dai o gredyd tai fel mater o frys. Pam? Oherwydd y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru symud o fodel sydd yn ei hanfod yn rhoi cymhorthdal rhent i fodel sy'n rhoi cymhorthdal i'r cyflenwad tai cymdeithasol, sef yr unig ateb i'r cwestiwn yn y pen draw. Pan fydd hyd yn oed sefydliad sydd wedi ei enwi ar ôl Aneurin Bevan, yn sicr nad oedd yn gyfaill i genedlaetholdeb Cymreig, yn dadlau'r achos dros ddatganoli lles, onid yw'n dangos, Prif Weinidog, ein bod ni ar ochr iawn y cwestiwn, ac, yn anffodus, eich bod chi yn dal ar yr ochr anghywir?