Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch, Sioned Williams, am godi'r mater pwysig hwn. Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn ystod anterth y pandemig, gwelsom gyfyngiadau enfawr yn cael eu gosod ar famau newydd a'u teuluoedd, nad oedden nhw'n cael ymweld â nhw yn yr ysbyty. Mae'r elusen a'r grŵp ymgyrchu Birthrights wedi monitro'r effaith ar draws y DU i fynegi'r heriau y mae llawer wedi eu hwynebu. Mae'n debyg eu bod nhw wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn gofyn am newid, gan ddweud bod gan Gymru
'rai o'r trefniadau ymweld mwyaf cyfyngol mewn gwasanaethau mamolaeth yn y DU.'
A yw'r Prif Weinidog yn credu y dylid ystyried yr effaith ar deuluoedd ar adeg mor bwysig yng nghyd-destun hawliau dynol, ac a gafodd yr hawliau hynny eu parchu? Diolch.