Twristiaeth Feicio

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:49, 29 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn. Fel ŷch chi'n gwybod, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn hybu twristiaeth feicio dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gweld datblygiad y gylchffordd gaeedig genedlaethol ym Mhen-bre—y closed road circuit ym Mhen-bre—ailddatblygu'r felodrom yn nhre Caerfyrddin, hefyd mae yna lwybr beicio ar hyd dyffryn Tywi ar fin cael ei orffen, ac mae sir Gaerfyrddin wedi cynnal sawl cymal o'r Tour of Britain dros y blynyddoedd diwethaf. Ac rydyn ni'n gwybod hefyd fod sir Benfro, ardal o harddwch naturiol, wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mawr, fel yr Iron Man yn Ninbych-y-pysgod yn flynyddol, yn sicr cyn y pandemig. Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y Tour de France i Gymru o'r blaen, ac rydyn ni’n gwybod am fuddiannau economaidd hynny. Roedd y Grand Depárt o swydd Efrog nôl yn 2014 wedi dod â rhyw £130 miliwn i mewn i'r ardal. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn: a fyddech chi'n cytuno bod gorllewin Cymru yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer cynnal cymal o'r Tour de France? A nawr bod COVID wedi pasio, pa waith mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei wneud i wahodd y Tour de France, un o'r cymalau, i orllewin Cymru rywbryd yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.