Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 29 Mawrth 2022.
Wel, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn pwysig yna, Dirprwy Lywydd. Mae penderfyniad P&O Ferries i ddiswyddo ei weithlu ffyddlon heb ymgynghori a hynny ar unwaith yn annerbyniol ac yn anghyfreithlon. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU na ddylen nhw sefyll o'r neilltu a chaniatáu ras garlam i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr yn y diwydiant hwn nac unrhyw un arall.