Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 29 Mawrth 2022.
Dirprwy Lywydd, nid yw'n syndod, oherwydd Bil a gyflwynwyd gan Aelod Seneddol y Blaid Lafur ydoedd. Ond mae'r heclo y trodd hyn i mewn iddo o'r meinciau draw yn y fan yna yn atgyfnerthu'r neges, onid yw? Maen nhw'n atgyfnerthu'r neges nad yw Plaid Geidwadol y DU yn poeni am bobl gyffredin sy'n gweithio yng Nghymru a ledled y DU. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges syml iawn, ond pwerus i Lywodraeth Geidwadol y DU fod angen deddfwriaeth arnom ni yn awr i roi terfyn ar arferion diswyddo ac ailgyflogi, a bod angen i ni hefyd ddirymu'r holl gyfreithiau gwrth-undebau llafur sy'n tynnu pŵer oddi ar bobl gyffredin sy'n gweithio?