Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Mawrth 2022.
Dirprwy Lywydd, diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am y cynnydd a fu o ran y cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru a'r cymorth yr ydym ni'n ei roi ar waith i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.
Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 3.8 miliwn o bobl wedi ffoi o Wcráin erbyn hyn. Mae'r mwyafrif llethol wedi chwilio am ddiogelwch yng Ngwlad Pwyl ac mewn gwledydd cyfagos. Mae'r argyfwng hwn yn datblygu ar garreg ein drws ni. Mae pobl yma yng Nghymru—a ledled y DU—wedi arddangos parodrwydd mawr i helpu pobl Wcráin. Rydym ni wedi gweld hynny yn niferoedd y bobl sydd wedi mynychu gwylnosau, sydd wedi rhoi dillad, nwyddau ac arian—hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Rydym ni wedi gweld ymateb ysgubol gan bobl yng Nghymru hefyd wrth iddyn nhw gofrestru yn eu miloedd â chynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU a bod yn noddwyr o bosibl i rai sy'n ffoi rhag y rhyfel ac agor drysau eu cartrefi iddyn nhw. Mae Cymru yn dangos ein dyhead ni i fod yn genedl noddfa yn ymarferol.
Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ers iddo gael ei sefydlu ac rydym ni wedi cofrestru yn uwch-noddwyr. Fe fydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i bobl o Wcráin nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiadau teuluol yn y DU, na noddwyr unigol, gael noddfa yng Nghymru. Gall pobl sy'n ffoi o Wcráin sy'n dymuno dod i Gymru ddewis cael eu noddi am fisa gan Lywodraeth Cymru. Aeth yr opsiwn hwn yn weithredol brynhawn Gwener diwethaf ac rydym yn gwneud trefniadau i'r bobl gyntaf gyrraedd yma. Rydym ni wedi dweud y byddwn yn noddi 1,000 o bobl ar y cam cyntaf. Mae hynny ar sail profiad cynlluniau llwyddiannus i ailsefydlu pobl o Syria ac Afghanistan. Serch hynny, rydym ni'n barod i dderbyn mwy os oes angen. Pan roddir caniatâd am fisa, fe fydd canolfan gyswllt Llywodraeth Cymru yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol i gadarnhau'r trefniadau ar gyfer eu dyfodiad.