Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr am godi'r materion hyn, a dyna yw'r her fawr, onid yw, o ran cydbwyso anghenion busnes ochr yn ochr ag anghenion llywodraeth leol, sy'n darparu'r gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Felly, dyna'r her a osodais i'r rhai hynny a fyddai'n dymuno i ni gael gwared â rhyddhad ardrethi'n llwyr, sef dangos sut y byddai'n cael ei dalu. Ac rwy'n credu ei bod yn her dda.
Rwy'n croesawu'r hyn yr oedd gan Mike Hedges i'w ddweud am ailbrisio a symud atyn nhw'n amlach. Felly, dyna un o'r pethau y byddwn yn ei archwilio, pa mor aml y byddwn yn cael yr ailbrisiadau hynny, ond yna hefyd yr amser rhwng yr ailbrisio a phryd y daw i rym ac y rhoddir ar waith.
A bydd y cwestiynau sy'n ymwneud â threth ar werth tir, unwaith eto, yn rhan o'n darn o waith wrth i ni symud ymlaen o ran deall y goblygiadau i wahanol gymunedau o'r newidiadau posibl a allai ddigwydd, pe baem yn symud at dreth gwerth tir. Ond rwy'n credu bod yr ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor yn nodi rhai o'r heriau hyn a byddwn yn bwrw ymlaen â mwy o waith arnyn nhw yn y dyfodol agos.
Ac rwy'n credu bod y pwynt am awdurdodau lleol yn cadw ardrethi annomestig yn bwysig iawn. Mae'n bwysig cydnabod bod yr holl refeniw o ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i ariannu'r gwasanaethau lleol hynny, ac, yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sylfaen dreth yr ardrethi ac ar gyfraddau casglu. Mae angen i ni ddeall yr effeithiau hynny cyn y gallem ni ystyried sut y byddwn yn symud ymhellach byth mewn cysylltiad â newidiadau i'r ffordd yr ydym yn ymdrin ag ardrethi annomestig, oherwydd yn amlwg nid ydym yn dymuno i awdurdodau lleol fod yn llai cadarn yn ariannol o ganlyniad i unrhyw un o'r newidiadau y gallem ni ystyried eu cyflwyno. Fodd bynnag, rydym ni wedi nodi cynlluniau ar gyfer edrych ar y ffordd y mae system gyllid llywodraeth leol yn gweithredu yn ei chyfanrwydd, ac mae'n ymwneud â'r cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol.
Mae'n werth dysgu gwersi o'r hyn sy'n digwydd dros y ffin o ran lleoleiddio ardrethi annomestig. Yn Lloegr, mae hynny'n rhan o'r newidiadau ehangach y maen nhw'n eu gwneud i gyllid llywodraeth leol yno, ac maen nhw wedi cynnwys gostyngiadau sylweddol, serch hynny, i'r Grant Cynnal Refeniw o ganlyniad. Felly, dros y ffin, mae awdurdodau lleol yn cadw 50 y cant o'r cyfraddau, gyda chynlluniau i gynyddu hynny i 75 y cant o 1 Ebrill 2022, ond mae'r trefniadau yno'n gymhleth, ac mae'r manteision o ran ysgogi twf economaidd lleol, yn ein barn ni, yn amheus.
Rydym wedi gwahodd awdurdodau lleol yng Nghymru, gan weithio gyda'i gilydd fel rhanbarthau, i gyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallai dull elw cyfranddaliadau o ymdrin ag ardrethi annomestig weithio, lle gallan nhw ddangos bod eu gweithredoedd wedi sicrhau twf. Felly, rydym eisoes wedi cytuno ar gynnig penodol ar gyfer cadw ardrethi yn rhannol gyda dinas-ranbarth bae Abertawe, i gefnogi ei fargen ddinesig.
Rwyf i yn deall y galwadau gan rai mewn llywodraeth leol am gadw ardrethi, a gallai fod o fudd i awdurdodau a all adeiladu eu heconomïau lleol yn gyflymach na'u holl gymdogion. Mae'r un awdurdodau hynny, wrth gwrs, yn aml yn galw am sefydlogrwydd o ran cyllid, ac mae rhywfaint o dystiolaeth bod cadw ardrethi yn cael effaith andwyol ar gyllid mewn ardaloedd llai bywiog, gan gynyddu anghydraddoldeb rhwng y rhanbarthau yn Lloegr. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae awdurdodau lleol yn well gyda'i gilydd i gydnabod y risgiau sy'n bodoli, a pharhau â'n traddodiadau gwasanaeth cyhoeddus cryf o gydweithredu a chydraddoli'r budd i Gymru gyfan.
Ac i orffen ar y pwynt hwn—gallaf deimlo llygaid y Dirprwy Lywydd arnaf—ar hyn o bryd dim ond pedwar o'r 22 awdurdod yng Nghymru a fyddai'n elwa'n gyson ar eu cadw pe baem yn gweithredu system debyg i'r un yn Lloegr, a hyd yn oed ar gyfer y pedwar hyn, byddai cadw ardrethi yn dibynnu ar allu cynyddu twf yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, ond nid ydym yn credu mai'r model hwnnw yw'r un iawn i ni yng Nghymru. Diolch.