Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Weinidog. Byddwch chi'n gwerthfawrogi bod diogelwch tomenni glo yn fater sydd o ddiddordeb mawr i fi, oherwydd yr ardal rwy'n ei chynrychioli, a hefyd i Blaid Cymru. Rwy'n croesawu adroddiad Comisiwn y Gyfraith, wrth gwrs. Mae'n amserol, o ystyried y bydd Plaid Cymru yn cynnal dadl yfory yn y Senedd ar y mater hwn. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynnal arbenigedd wrth fynd ati i ddiogelu a hefyd cael gwared ar domenni, fel dŷch chi wedi bod yn ei drafod yn barod. Ac mae nifer o dystion i'r ymchwiliad wedi dadlau y dylid sefydlu awdurdod goruchwylio. Dŷch chi wedi dweud yn barod ychydig am hyn, so roeddwn i jest eisiau rhoi ar y record ein bod ni'n gefnogol iawn o'r syniad yma—y dylai fod awdurdod â'r pwerau i oruchwylio diogelwch pob tomen sydd yn segur.
Rwy'n deall hefyd fod awdurdodau lleol wedi siarad, wrth siarad â'r comisiwn, am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu wrth weithredu'r gyfraith bresennol, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau ariannol. Mae diffyg ffrydiau ariannu, hynny ydy, wedi arwain at golli arbenigedd hanfodol a thechnegol yn yr awdurdodau lleol. Felly, byddwn i'n gofyn, Weinidog, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i harneisio'r arbenigedd presennol mewn rheoleiddio tomenni, yn ogystal â chynyddu lefel yr arbenigedd mewn awdurdodau lleol? Ac ar y ffrydiau ariannu yn benodol, sut y bydd ariannu hyn, o ystyried y cyfyngiadau sydd yna ar hyn o bryd? Dŷn ni'n cytuno, wrth gwrs, taw San Steffan ddylai fod yn talu'r bil hwn. Mae tomenni glo a thomenni eraill yn etifeddiaeth a ddaeth o orffennol diwydiannol y Deyrnas Unedig—maen nhw'n rhagflaenu datganoli. Ac mae sefyllfa gyllidol Cymru, ar lefel macro o leiaf, eto yn ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Weinidog, am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth San Steffan i benderfynu pwy fydd yn talu i gael gwared ar y tomenni, adennill y tir ac adfywio yr ardaloedd hyn? Beth ydy'r camau nesaf yn y trafodaethau hynny, os gwelwch yn dda?
Ac yn olaf, mae adroddiad y comisiwn yn ystyried gwerth bioamrywiaeth y tomenni. Roedd Buglife, dwi'n meddwl, a hefyd Clare Dinham wedi tynnu sylw at yr angen i gynnwys bioamrywiaeth fel ystyriaeth wrth reoli'r tomenni. Maen nhw'n dweud ei bod hi'n hanfodol bod arbenigwyr ecolegol o fewn awdurdodau lleol, a hefyd elusennau cadwraeth yn rhan o'r broses o lunio cynlluniau i reoli'r tomenni yma a'r ardaloedd hefyd. Gall tasglu rhanddeiliaid ecolegol fod yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau bod pwysigrwydd bioamrywiaeth yn rhywbeth sydd yn cael ei ystyried yn wirioneddol. Beth ydy eich safbwynt chi ar hyn, os gwelwch yn dda? Oes yna gynlluniau i sefydlu tasglu o'r fath ar y gweill?