Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 29 Mawrth 2022.
Roedd yn dda clywed eich condemniad o driniaeth staff P&O Ferries, sydd wedi cael eu trin yn warthus. Yn absenoldeb hawliau cryfach y mae mawr eu hangen i weithwyr, rwy'n gobeithio y bydd y drychineb cysylltiadau cyhoeddus a ddeilliodd o hynny yn gorfodi penaethiaid y cwmni i ailfeddwl. Roeddwn i hefyd yn falch o glywed sôn dro ar ôl tro am waith teg yn eich datganiad. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rhaid i ni sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae hon yn un o gredoau craidd Plaid Cymru.
Yr hyn yr ydym ni wedi'i weld mewn dirwasgiadau blaenorol a dirywiad economaidd yw mai pobl ar ddau ben y sbectrwm oedran gweithio sydd wedi dioddef fwyaf o'r argyfwng. Gyda fy nghyfrifoldeb dros bobl hŷn, rwy'n awyddus i Gymru ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Er enghraifft, yn ystod cwymp ariannol 2008, bu bron i ddiweithdra ymhlith gweithwyr hŷn ddyblu yn y DU. Rydym ni'n gwybod, pan gaiff pobl hŷn eu diswyddo, eu bod yn ei chael hi'n anoddach dod o hyd i waith. Heb gymorth digonol, rydym ni'n wynebu'r risg o genhedlaeth gyfan o bobl hŷn, yn eu 50au a'u 60au, na fydd yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Yr hyn sy'n gwaethygu pethau yw bod llawer o bobl hŷn yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle. Felly, hoffwn i glywed gan y Dirprwy Weinidog heddiw ynghylch sut y maen nhw'n bwriadu unioni'r pryderon hyn.
Hoffwn i hefyd godi mater a gafodd ei grybwyll gan fy nghyd-Aelod yn fy mhlaid, Luke Fletcher, yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Mae llawer o fy etholwyr yn cymudo i Gaerdydd o'u trefi a'u pentrefi, felly roeddwn i'n siomedig o weld Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn marchnata'r ardal fel hafan i gyflogwyr sy'n talu cyflogau is. Mae hyn yn gwrth-ddweud gwaith y Comisiwn Gwaith Teg i hyrwyddo'r polisi bod gwaith teg yn cyfateb i wobr deg. Dylem ni fod yn ceisio unioni gwahaniaethau cyflog a pheidio â brolio amdano mewn prosbectysau i gwmnïau, gan barhau â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o anodd yn ystod argyfwng costau byw sydd wedi tynnu llawer o deuluoedd i dlodi llwm. A wnewch chi felly gondemnio'r hysbysebu gan Brifddinas-ranbarth Caerdydd? Rwy'n nodi eich ateb i gwestiwn blaenorol, ond sut ydych chi'n bwriadu ymdrin â'r canfyddiad ei bod yn iawn i fusnesau ddod i Gymru a thalu cyflog is i weithwyr? Diolch yn fawr.