Diogelwch Tomenni Glo

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:31, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd yn amlwg o’r datganiad ar ddiogelwch tomenni glo ddoe fod llawer mwy o waith i’w wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddiogelu'r hyn a adawyd ar ôl gan ein gorffennol diwydiannol yng Nghymru. Bydd yn cymryd llawer o flynyddoedd a channoedd o filiynau o bunnoedd i ymdrin â hyn. Afraid dweud mai San Steffan, a gafodd y buddion a’r elw o’r diwydiant glo, a ddylai fod yn talu’r bil. Mae'n sgandal nad ydynt yn gwneud hynny. Sut ydych chi'n cysylltu ag adrannau eraill o’r Llywodraeth i sicrhau y bydd gennym yr arbenigedd a’r capasiti angenrheidiol yng Nghymru i wneud y gwaith arbenigol sydd ei angen i ddiogelu ein cymunedau? Erbyn hyn, mae angen ailasesu gwaith adfer a oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ddegawdau’n ôl yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.