Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 30 Mawrth 2022.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rwy'n gobeithio y bydd amddiffyn yr arfordir yn rhan o’r gwaith hwnnw, ond edrychaf ymlaen at ddarganfod mwy wrth i amser fynd rhagddo.
Gan droi, yn ail ac yn olaf, at adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar CNC, mae wedi tynnu sylw at bryder eang ymhlith rhanddeiliaid ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. Mae hynny’n cynnwys ei allu i fonitro ac asesu cyflwr ardaloedd gwarchodedig morol ac ar y tir ar gyfer natur. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am unrhyw asesiadau a wnaed o’r capasiti a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rhaglen fonitro ddigonol ar gyfer y safleoedd hyn, a sut y mae hyn yn cymharu â’r capasiti a’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd?