Diogelu Ynni

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:01, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau diogelwch ffynonellau ynni'r DU, a disgwyliwn weld gweithredu beiddgar yn ei strategaeth diogelu ffynonellau ynni sydd ar y ffordd, ac sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi'i gohirio eto. Yng Nghymru, rydym yn cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, gan gefnogi marchnadoedd ynni lleol, cynllunio a threialu arloesedd, i adeiladu system ynni sero net ar gyfer y dyfodol.