Atal Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:57, 30 Mawrth 2022

Diolch yn fawr. Mae nifer o ffactorau yn dod at ei gilydd i greu'r risg ym mae Hirael, yn cynnwys cynnydd yn lefelau'r môr, bwrdd dŵr uchel a'r ffordd mae'r Afon Adda yn tywallt i'r môr. Dwi'n hynod o falch bod yna arian sylweddol yn cael ei neilltuo i gynllun amddiffyn. Dwi'n ymwybodol bod yna gynllun arall ar droed yn yr ardal yma, sef cynllun i ymestyn llwybr yr arfordir. Felly, hoffwn i ddeall sut bydd y ddau gynllun yma yn plethu i'w gilydd, a sut byddwch chi'n sicrhau bod y gwaith yn digwydd ar y cyd ac yn brydlon.