Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 30 Mawrth 2022.
Mae’r Aelod yn ailadrodd dadleuon a gawsom ychydig wythnosau yn ôl yn Siambr y Senedd, ac nid wyf yn bwriadu mynd drwyddynt i gyd eto, heblaw dweud ein bod yn fodlon, fel y nodwyd gennym yn y ddadl honno, fod mecanwaith gennym i wneud hynny, mae gennym gynllun hirdymor, ac mae polisïau a chamau gweithredu eisoes ar waith a fydd yn gwneud hynny. Fel y soniodd, cynhaliwyd yr archwiliad dwfn i edrych ar unrhyw rwystrau tymor byr. Un o'r pethau a nodwyd gennym oedd yr angen i adolygu'r broses drwyddedau a chaniatadau morol, ac rydym yn gwneud hynny yn awr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Y cynnig yw edrych arno o safbwynt datblygwr, a mynd gam wrth gam drwy'r hyn a allai fod yn ei arafu, unrhyw beth sy'n achosi gwrthdaro, a chael gwared arno. Credaf fod hynny wedi'i groesawu'n fawr gan y rhanddeiliaid, a chredaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.