Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 30 Mawrth 2022.
Wel, mwynheais yn fawr y ffordd yr ymlwybrodd yr Aelod ar hyd yr uwchbriffordd wybodaeth. Nid wyf yn siŵr a yw'n taro'r pwynt yn llwyr, serch hynny, ond rwy'n barod i edrych ar hynny, oherwydd yn amlwg, mae angen ei ddiweddaru. Ond fel y soniais yn fy ateb i Jane Dodds, rydym yn ariannu Ynni Cymunedol Cymru i fod yn ganolbwynt i ddarparu cyngor ar sut i fwrw ymlaen â chynlluniau ynni cymunedol, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelod fod eu gwefan hwy yn gwbl gyfredol.