Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 30 Mawrth 2022.
Bydd methiant Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy yn ddinistriol i aelwydydd ledled y DU. Rydym wedi rhoi camau cyflym ar waith—gan ddyblu'r taliad tanwydd y gaeaf i £200 ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, cyflwyno ad-daliad treth gyngor mwy hael na Llywodraeth y DU a chynyddu ein cronfa ddewisol ar gyfer deiliaid tai sy'n ei chael yn anodd.