Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 30 Mawrth 2022.
Wel, fel y soniodd Jane Dodds yn gywir, mae gennym darged i sicrhau cynnydd o 100 MW yn yr ynni a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus rhwng yn awr a 2026. Rydym wedi gweld enghraifft ragorol Ysbyty Treforys, lle mae fferm solar bellach wedi'i hagor sy'n pweru'r ysbyty'n gyfan gwbl am ran sylweddol o'r amser. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda grwpiau ynni cymunedol, oherwydd fel y dywedais, yr egwyddor a ddaeth allan o'r archwiliad dwfn oedd bod angen inni nid yn unig gyrraedd ein targedau newid hinsawdd, ond bod angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth o fewn ein heconomi leol, ac nid ydym am weld datblygiad economaidd echdynnol fel y gwelsom ar adegau blaenorol o chwyldro diwydiannol yn digwydd y tro hwn. Felly, mae ynni cymunedol yn hanfodol i hynny. Ac mae llawer i'w edmygu am Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy yr Alban. Mae gennym ein cynllun ein hunain, sef gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth technegol a masnachol i brosiectau a arweinir gan y gymuned. Yn ddiweddar, rydym wedi dyfarnu £2.35 miliwn i Gydweithfa Egni i gyflwyno cam arall o'u rhaglen solar ardderchog ar doeon, cynllun yr ymwelais ag ef yng Nghaerllion yn ddiweddar, a bydd hwnnw'n darparu 2 MW arall o gapasiti mewn dwylo lleol ac yn hollbwysig, fe fydd yn darparu cynnig cyfranddaliad cymunedol. Felly, nid yn unig y mae'r adeiladau cyhoeddus hyn yn cael trydan rhad ac am ddim, maent hefyd yn cael cyfran yn y gydweithfa. Mae'n esiampl wych.
Felly, o ran esiampl yr Alban, mae ein grant ynni lleol ein hunain a'n cronfeydd benthyciadau ynni lleol mewn gwirionedd yn cynnig cymorth mwy hael nag y mae cynllun yr Alban yn ei wneud. Ond rwy'n credu bod eu model allgymorth cymunedol yn un diddorol iawn, ac yn un y byddwn yn sicr â diddordeb mewn edrych arno ymhellach fy hun. Felly, diolch ichi am dynnu ein sylw at hynny.