Myfyrwyr Safon Uwch

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:26, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd fy nghwestiwn yn mynd i fod yn debyg iawn i gwestiwn Russell George, felly fe wnaf ei addasu ychydig i ddweud fy mod innau wedi cael yr un math o sylwadau. Mae un etholwr yn benodol wedi gofyn am beidio â chynnal arholiadau eleni. Nawr, nid yw honno'n farn rwy'n ei chefnogi mewn gwirionedd, oherwydd os ydym am symud oddi wrth arholiadau credaf fod angen ei wneud mewn ffordd strategol ac wedi'i chynllunio. Ond yn sicr mae'n dynodi'r pryder y mae'r rhiant dan sylw'n ei deimlo dros eu plant, a sut y mae eu plant yn teimlo. Felly, rydych wedi amlinellu peth o'r cymorth ychwanegol. Yn y dyfodol, a wnewch chi ystyried edrych ar arholiadau fel dull o asesu, ac efallai, mewn pynciau nad yw arholiadau yn ddull mor addas o'u hasesu, yn ystyried symud at fath mwy cytbwys o asesu a allai ddileu peth o'r straen ar yr adeg honno o'r flwyddyn i fyfyrwyr?