Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 30 Mawrth 2022.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym ar gyfer ysgolion ar gefnogi anghenion llesiant poblogaeth yr ysgol gyfan. Mae'r canllawiau'n hyrwyddo ac yn cydnabod yr effaith y mae chwarae hunangyfeiriedig a ddewisir yn rhydd yn ei chael ar iechyd a llesiant plant, a bydd ein gwaith yn cael ei werthuso'n llawn yn y blynyddoedd i ddod.