Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 30 Mawrth 2022.
Mae ffocws cryf ar ddatblygu perthnasoedd iach ym maes iechyd a llesiant y cwricwlwm newydd. Mae tyfu'n unigolion iach a hyderus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd, a chaiff dysgwyr eu cefnogi i ddeall bod perthnasoedd iach yn hanfodol i'n llesiant.