Cau Ysgolion ym Mhowys

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:01, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o benderfyniad Cyngor Sir Powys i gau ysgolion gwledig yn yr ardal, sydd wedi bod yn ergyd drom i lawer o gymunedau. Rwy’n poeni fwyfwy am yr effaith y bydd y rhaglen trawsnewid hon fel y'i gelwir yn ei chael ar addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, felly diolch am eich ymateb. Mae ymrwymiad llawer o’r ysgolion gwledig hyn i addysg Gymraeg yn galonogol, a gwn eich bod yn rhannu fy mhryderon y gallai’r rhaglen hon o gau ysgolion olygu y bydd y Gymraeg yn dirywio, ac o bosibl, yn diflannu yn y cymunedau hyn. Felly, a gaf fi ofyn pa sylw ychwanegol y byddwch yn ei roi i sicrhau bod rhaglenni addysg Gymraeg yn gallu ffynnu mewn ysgolion gwledig? Diolch yn fawr iawn.