Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 30 Mawrth 2022.
Daeth y cyfnod cyflwyno gwrthwynebiadau i'r cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg i ben ar 16 Mawrth. Yn unol â'r cod trefniadaeth ysgolion, rhaid i'r cyngor ystyried gwrthwynebiadau'n gydwybodol ochr yn ochr â dadleuon mewn perthynas â'r cynnig a phenderfynu a ddylid cymeradwyo'r cynnig ai peidio o fewn 16 wythnos i'r dyddiad hwnnw.