Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 30 Mawrth 2022.
Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, ac roedd y sail y datblygwyd y cod addysg a'r canllawiau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb arni yn broses gynhwysol, a oedd yn cynnwys nifer o grwpiau a chynrychiolwyr cymunedol, fel y gallem sicrhau bod y cod a'r adnoddau, pan fyddant yn ein hysgolion, yn ddefnyddiol ac yn gefnogol ac yn cyflawni'r canlyniadau y gwn ei fod yn poeni amdanynt yn fawr iawn hefyd. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg ein pobl ifanc, ac fel yr oeddwn yn ei ddweud yn fy ateb i Sarah Murphy, pan welwch y math o weithgareddau sydd mewn ystafelloedd dosbarth i gefnogi ein dysgwyr i ddeall natur eu hawliau eu hunain, ond hefyd pwysigrwydd perthnasoedd iach, credaf fod gweld hynny'n cael ei ddarparu mewn ffordd gynhwysol iawn yn rhoi boddhad ac yn calonogi'n fawr hefyd.