Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 30 Mawrth 2022.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi canolbwyntio'n gryf ar blant. Mae Llywodraethau olynol wedi rhoi hawliau ac anghenion plant yn uchel ar yr agenda, o benodi Comisiynydd Plant Cymru, y cyntaf yn y DU, i arwain ar hyrwyddo chwarae plant a chyflwyno cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth plant a phobl ifanc Cymru ac mae wedi ymrwymo i wneud Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny ynddo. Ac yng Nghymru mae gennym ddarpariaeth gofal plant ragorol ar draws y blynyddoedd cynnar a chynnig addysg gynnar hirsefydlog ac uchel ei barch i blant tair a phedair blwydd oed. Ac mae ein hagwedd at addysg a gofal plentyndod cynnar yn adeiladu ar y sylfeini hyn, ac yn ganolog iddo, mae'r nod y bydd pob plentyn yn cael profiad dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel mewn unrhyw leoliad addysg a gofal y byddant yn ei fynychu, yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Mae'r math o leoliad y maent yn ei fynychu yn amherthnasol os ydynt yn cael eu cefnogi a'u meithrin yn ôl yr angen. Ac mewn ymateb i gyfraniad Huw Irranca-Davies, rwy'n hyderus ein bod yn symud tuag at ddyfodol pan fydd pob plentyn ledled Cymru yn gallu manteisio ar brofiadau gofal plant a chwarae ysgogol, cyffrous a buddiol, a bydd hyn yn galluogi eu teuluoedd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gynigir iddynt. Felly, rydym ar y daith honno tuag at addysg a gofal plentyndod cynnar y gwn ei fod, fel Gweinidog, yn gefnogol iawn iddo pan oedd yn y rôl hon, ac yn ddiweddarach yn yr haf, byddwn yn cyhoeddi disgrifiad manylach o sut y byddwn yn ei gyrraedd. Ond rwyf am sicrhau'r Siambr ein bod ar y daith hon a'n bod yn credu ei bod yn un o'r pethau pwysicaf y mae angen inni ei wneud.
Cefnogi teuluoedd â chostau gofal plant yw un o'n prif flaenoriaethau, ac rwy'n falch iawn fod ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ein cefnogi yn yr uchelgais hwn, oherwydd mae mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn rhan bwysig o gefnogi rhieni, a mamau yn enwedig, fel y clywsom heddiw—roeddwn yn falch iawn o glywed gan Sam hefyd—i oresgyn un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio neu rhag gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ac mae hynny wedi'i ddangos yn y ddadl hon. Oherwydd mae gofal plant ar bob ffurf yn gwneud hynny: mae'n rhoi dewisiadau i rieni, dewisiadau ynglŷn ag a allant, er enghraifft, fynd am ddyrchafiad, newid gyrfa, gweithio oriau hwy i wneud mwy o incwm yn y cyfnod ariannol cynyddol heriol hwn, oherwydd mae gofal plant yn alluogwr, mae'n helpu i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Ac yn y cyfnod ofnadwy hwn, pan fo cynifer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd, mae gofal plant wedi'i ariannu yn elfen hanfodol yn y frwydr yn erbyn tlodi, a chredaf fod Sioned wedi sôn am yr amgylchiadau anodd iawn sy'n wynebu cynifer o bobl yma yng Nghymru heddiw, ac rwy'n ystyried bod gofal plant yn ffordd hanfodol o fynd i'r afael â'r anawsterau enfawr hynny y mae pobl yn eu profi.
Mae darparu model cymysg o ddarpariaeth sy'n addas i anghenion gwahanol deuluoedd yn heriol, ac rwy'n falch fod gennym sbectrwm eang o wasanaethau yng Nghymru i gefnogi'r gwahanol anghenion a darpariaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ond rwy'n ymwybodol hefyd y gall ystod enfawr o ffactorau ddylanwadu ar yr opsiynau sydd ar gael i deuluoedd. Er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd llai cefnog, gwelwn fod llai o ddewis i rieni yn bendant ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Ar ddechrau ei chyfraniad, soniodd Jenny am blant, plant anabl, sydd efallai'n cael eu symud o gwmpas rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth, a byddem yn amlwg eisiau osgoi hynny, ac rydym yn annog darpariaeth gofal plant ar safleoedd ysgol, ac rwy'n gobeithio y cawn gefnogaeth rai penaethiaid i barhau i wneud hynny, a hefyd mae ein grantiau cyfalaf, ein grantiau cyfalaf gofal plant, wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu mwy o ofal plant ar safleoedd.
Hoffwn ddweud fod sawl Aelod wedi gwneud y pwynt fod llawer o bobl nad ydynt yn gwybod pa ofal plant sydd ar gael, a chredaf fod hwn yn bwynt pwysig iawn y mae'r pwyllgor wedi'i godi. Rydym yn dibynnu'n fawr ar y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, oherwydd credwn ei bod yn dda cael yr wybodaeth mewn un man. Ac rydym yn gweithio'n galed gyda'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd i sicrhau ei fod mor eang ag y gall fod. Rydym hefyd yn gweithio gyda Cwlwm i sicrhau bod yr hyn sydd ar y wefan yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, fod yn rhaid inni wybod beth sydd ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant drwy ein cynnig gofal plant i blant tair a phedair blwydd oed, ac rydym hefyd, fel y crybwyllwyd lawer gwaith yma heddiw, yn ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, rhywbeth sydd wedi'i groesawu'n fawr, ac mae hwnnw'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Felly, bydd cam 1 yr ehangu yn cynnwys cynnig pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg i tua 2,500 o blant ychwanegol. A bydd y plant dwyflwydd oed yn derbyn y gofal plant a ariennir. Credaf ei bod yn bwysig iawn nodi bod yr ymchwil sydd wedi'i wneud ar Dechrau'n Deg wedi dangos ei fod wedi lleihau'r bwlch, a'i fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. A dyna pam y penderfynasom ehangu'r ddarpariaeth i blant dwyflwydd oed drwy Dechrau'n Deg, oherwydd mae'r cyfuniad o bedair elfen Dechrau'n Deg wedi pontio'r bwlch hwnnw, ac wedi'i bontio'n llwyddiannus iawn. Felly, credaf ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir i ehangu drwy Dechrau'n Deg.
Ac yn yr haf, byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen ag ehangu Dechrau'n Deg, oherwydd mae gennym y nod o sicrhau bod pob plentyn dwyflwydd oed yn gallu cael gofal plant wedi'i ariannu yn ystod tair blynedd y cytundeb cydweithio—erbyn diwedd y tair blynedd. Ac mae'n uchelgeisiol iawn—mae'n gynllun uchelgeisiol iawn. Mae'n rhaid inni weithio mewn partneriaeth wirioneddol â'r sector i sicrhau ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn. Rhaid inni siarad â'r holl wahanol sefydliadau sy'n ymwneud â'r sector i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn yn llwyddiannus. Ac mae llawer o olwynion cysylltiedig yn y system hon, ac rydym eisiau sicrhau mai'r gwelliannau a wneir yw'r rhai cywir i blant Cymru, a chynnig gwasanaethau sy'n cynnwys yr holl anghenion a phrofiadau.
Roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn gwneud y pwynt ein bod, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol. Dyna un o'r meysydd rydym eisiau edrych arno mewn perthynas â'r sector gofal plant. Oherwydd bydd y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn cael ei gyhoeddi, rwy'n credu, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma, erbyn mis Mai 2022—