Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 30 Mawrth 2022.
Dyma lle yr hoffwn fynd ar ôl fy mhwynt cyntaf. Yng Nghymru, gwelsom gynnydd sylweddol yn y defnydd o opioidau, sef dosbarth o gyffuriau, fel y gwyddom i gyd, a geir ym mhlanhigyn y pabi opiwm, sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn fel arfer ar gyfer lleddfu poen ac maent yn gaethiwus iawn. Efallai na fydd rhai ohonoch yma'n ymwybodol, ond mae presgripsiynu opioidau wedi cynyddu 30 y cant ar gyfartaledd yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda bron i 1.6 miliwn o eitemau opioid yn cael eu presgripsiynu yng Nghymru ychydig cyn y pandemig. Ym Mhowys yn unig, maent wedi gweld cynnydd aruthrol o bron i 95 y cant mewn 10 mlynedd. Mae poenau parhaus, y rhoddir llawer o'r opioidau hyn ar bresgripsiwn ar eu cyfer, yn fwy cyffredin mewn ardaloedd lle y ceir mwy o amddifadedd, yn ogystal ag iselder a gorbryder, sydd i gyd yn ychwanegu at y baich poen. Er nad yw poen parhaus yn cael ei wella gan y cyffuriau analgesig hyn, ni chaiff ei wella ychwaith drwy gael gwared arnynt. Mae nifer sylweddol o bobl sy'n mynd at eu meddyg yn dioddef poen fel arfer yn anymwybodol o'r problemau niferus gyda'r cyffuriau analgesig hyn, yn fwyaf nodedig y ffaith nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn effeithiol iawn yn hirdymor.
Gyda hyn mewn golwg, gwelaf fod y model fferylliaeth gymunedol yn gyfle mawr i'r system gofal iechyd helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd hwn yn y defnydd o opioidau. Gallai fferyllfeydd ddod yn fan cyswllt cyntaf i'r rhai sy'n dioddef poen, a gallai ddarparu llwybrau lliniaru poen eraill heb fod angen opioidau. Ac o roi hyfforddiant sylweddol ac uwchsgilio staff, gellid defnyddio fferyllfeydd cymunedol hefyd i adolygu cleifion sy'n defnyddio opioidau yn effeithiol fel mecanwaith adborth ar gyfer meddygon teulu. Gall hyn helpu'r system gofal iechyd i ddeall yn well yr effeithiau y mae opioidau yn eu cael ar gleifion. Rwy'n siŵr fod byrddau iechyd a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn gwbl abl i ganfod hyn drostynt eu hunain, felly mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod a fu unrhyw gamau gweithredol wrth asesu capasiti fferyllfeydd cymunedol i ddod yn fan cyswllt cyntaf i'r rhai sy'n dioddef poen.
Er bod gan y model fferylliaeth gymunedol botensial enfawr i ehangu i feysydd fel lleddfu poen, y pwynt nesaf yr hoffwn fynd ar ei drywydd yw mai dim ond os oes digon o fferyllwyr i ymgymryd â'r rôl y mae'n gweithio mewn gwirionedd. Deallaf fod rhywfaint o ddadlau o fewn y gymuned fferylliaeth, oherwydd dywed rhai fferyllwyr corfforaethol na allant lenwi eu holl swyddi gwag oherwydd prinder fferyllwyr, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt leihau oriau agor neu gau fferyllfeydd. Yn wir, mae digon o fferyllwyr cofrestredig i lenwi pob rôl, a deallaf fod a wnelo'r mater hwn fwy â thelerau ac amodau annerbyniol rhai contractau fferyllol, a fferyllwyr sy'n dioddef yn sgil gorweithio, fel y soniwyd eisoes. O ystyried canlyniadau siomedig arolwg amgylchedd gwaith diogel y Gymdeithas Amddiffyn Fferyllwyr yn ddiweddar, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru roi llawer mwy o bwysau i sicrhau bod fferyllfeydd yn cyrraedd safonau uchel o gyflog teg ac amodau gwaith teg, ac y dylai cyrraedd safonau cyflog teg ac amodau gwaith teg fod yn hanfodol os ydynt am gadw eu contractau GIG.
Yn olaf, rwyf am fynd i'r afael â mater dosbarthu meddyginiaethau ar golled. Mewn termau real, mae fferyllfeydd wedi gweld cynnydd mawr yn eu costau, yn enwedig gyda chost cyfarpar diogelu personol, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ad-daliad iddynt amdano, a hefyd gyda phrisiau ynni uwch a chostau cynyddol cyffuriau. Rwy'n ymwybodol fod cost y cyffuriau hyn, megis cyffuriau gwrth-iselder penodol a chynhyrchion adfer hormonau, yn fwy na'r swm y mae'r GIG yn ei dalu i'r fferyllfa amdanynt, swm sydd wedi'i bennu ymlaen llaw. Yn anffodus, mae goblygiadau mawr i hyn, oherwydd mae'n lleihau'r arian sydd ar gael i fferyllfeydd ailfuddsoddi mewn gwasanaethau, i dalu cyflogau gwell i'w staff, ac mae hefyd yn creu posibilrwydd na fydd fferyllfeydd efallai'n gallu fforddio dosbarthu'r cyffuriau hyn, a fyddai'n cael effeithiau canlyniadol ehangach am na fydd cleifion yn gallu cael y meddyginiaethau y byddant eu hangen. Er y gall fferyllfeydd mwy o faint a mwy prysur oroesi cynnydd cyflym yn y costau, efallai na fydd practisau annibynnol llai o faint yn gallu gwneud hynny, ac mae hyn yn golygu, yn anochel, fod mwy o berygl i'r rhain gau, gan greu mwy o straen a phryder i bobl sydd eisoes yn dioddef oherwydd salwch. O ystyried sgil-effeithiau posibl dosbarthu ar golled, credaf y byddai'n werth gwybod a oes gan y Llywodraeth hon unrhyw gynlluniau i gefnogi'r fferyllfeydd hyn yn ariannol pan fyddant yn dod yn agored i gostau sylweddol uwch am gyffuriau. Diolch, Ddirprwy Lywydd.