Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 30 Mawrth 2022.
Roedd yn braf iawn heddiw—mae llawer wedi sôn amdano—y gydnabyddiaeth drawsbleidiol i'r gwaith da hwn, a gallwn i gyd ddiolch am y gwaith anhygoel y mae fferyllwyr wedi'i wneud. Rwy'n siŵr fod pob Aelod hefyd wedi cael y pleser o ymweld â'n fferyllwyr gwych, rhywbeth y soniodd Gareth Davies amdano. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y rôl eithriadol y maent yn ei chyflawni mewn ystod eang o wasanaethau.
Felly, wrth gloi ein dadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater allweddol sydd, yn fy marn i, wedi'u hamlygu a'u trafod yma heddiw. A'r cyntaf, fel yr amlinellais ym mhwynt 3 ein cynnig heddiw: mae'n amlwg fod ein gweithlu fferyllol o dan bwysau, ac yn agos at gyrraedd pen eu tennyn. Soniodd Jack Sargeant am hyn ac felly hefyd Laura Anne Jones. Arolwg llesiant y gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a ganfu fod 90 y cant o'r ymatebwyr mewn perygl mawr o gael eu gorweithio, ac yn anffodus, roedd un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Rwy'n siŵr fod Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno bod yr ystadegau hyn yn peri pryder mawr, a dyma'r amser i gymryd camau i unioni hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gydnabod hynny ac am amlinellu peth o'r gwaith a wneir i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Yr ail fater allweddol a nodwyd heddiw yw bod y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol—teitl bachog iawn—a amlinellir ym mhwynt 2 ein cynnig yn dod i rym ar 1 Ebrill. Ac ar draws pob un o'r meinciau ac wedi'i gynnwys, rwy'n credu, yng nghyfraniad Joel James, mae llawer yn gobeithio y bydd hyn yn lleddfu peth o'r pwysau sy'n wynebu fferyllfeydd a fferyllwyr ar hyn o bryd. A thynnodd Russell George sylw hefyd at y ffaith bod y gwasanaeth hwn wedi bod yn gytundeb eang arloesol rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru. Bydd y gwasanaeth hwn yn seiliedig ar bedair thema allweddol: ehangu rôl glinigol fferyllwyr cymunedol, datblygu sgiliau, ansawdd ac integreiddio o fewn gofal sylfaenol, a'r elfen ariannu hefyd a gafodd sylw gan lawer o Aelodau yn y Siambr heddiw. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth hwn yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu, yn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu ac yn cynyddu cyfathrebu hanfodol yn ein cymunedau.
A chredaf fod trydydd maes wedi'i nodi yma heddiw, ac mae wedi bod yn glir yn y ddadl. Fe'i hamlinellir ym mhwynt 4(a) ein cynnig, a thynnodd nifer o'r Aelodau sylw at hyn, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor, a Gareth Davies eto, am yr angen i gyflymu'r broses o gyflwyno datblygiadau technolegol yma yng Nghymru. Mae technoleg yma yn sylfaenol ar y gorau. Mae e-bresgripsiynu, rhannu cofnodion meddygol, nad yw ar gael fel mater o drefn—soniodd llawer o'r Aelodau am hynny—yn golygu bod ein fferyllwyr a'n meddygon teulu yn treulio llai o amser gyda chleifion. A thynnodd Aelodau sylw at y gwrthgyferbyniad rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a thu hwnt, sydd wedi bod yn e-bresgripsiynu—Lloegr a'r Alban—ers dros ddegawd, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno nad yw hyn yn iawn, a'i fod yn cael effaith negyddol ar les cleifion a staff. Ac unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am yr ymrwymiadau sy'n cael eu gwneud yn hyn o beth, a'r awydd i weld hyn yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn tynnu sylw at y rôl eithriadol a gyflawnwyd gan fferyllwyr yn ystod y pandemig, o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd i gefnogi'r broses genedlaethol ragorol o gyflwyno'r brechlyn COVID-19. Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych inni ddod at ein gilydd i ddathlu eu gwaith a diolch iddynt ar draws ein pleidiau. Serch hynny, mae wedi dod yn amlwg o'r ddadl heddiw fod fferyllwyr yn dal i fod o dan bwysau a straen eithafol ac mae angen gwneud mwy i leihau biwrocratiaeth, lleihau'r baich ar staff, gan arwain yn y pen draw at well gwasanaeth i'r rhai sydd ei angen. Ac yng ngoleuni hyn, rwy'n falch iawn o glywed a gweld nad yw meinciau'r Llywodraeth, Llafur, a Phlaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i'r ddadl heddiw. Rwy'n ddiolchgar am eu cyfraniadau drwy gydol hyn hefyd ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gefnogaeth drawsbleidiol. Unwaith eto, diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw, ynghyd â'r atebion ymarferol a real niferus a gafodd eu cynnig. Diolch yn fawr iawn.