Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 30 Mawrth 2022.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Roeddech yn sôn am y Llywodraeth yn chwarae rhan, ond rhaid i gyflogwyr chwarae rhan. Soniodd yr Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig am amodau gwaith. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o gael gwell amodau gwaith yw drwy ymuno ag undeb llafur?