Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 30 Mawrth 2022.
Fel rhywun sy'n cynrychioli ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, maent wedi bod yn druenus am gomisiynu gwasanaethau yn y gymuned drwy fferyllwyr. A fyddech yn cytuno bod angen mwy o ddealltwriaeth ynghylch y contract fel y gellir contractio mwy o wasanaethau i fferyllfeydd, yn enwedig yn yr agenda iechyd cyhoeddus? Oherwydd os edrychaf ymhellach i'r gorllewin, gallaf weld y gwasanaethau hynny mewn fferyllfeydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond ni allaf ddod o hyd iddynt yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.