Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 30 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Beth oedd cost glo i'r Cymoedd? Pa bris y mynnwyd bod ein pobl yn ei dalu am y cyfoeth a gymerwyd gan eraill? A ydym yn mesur y gost honno mewn cyrff a gladdwyd? A ddylid ei gyfrifo mewn bywoliaeth a gollwyd, coesau a breichau a gollwyd, ysgyfeintiau'n drwch o glefyd a llwch? Neu a ydym yn ei fesur mewn mwd a baw a godwyd o'r ddaear a'i adael i faeddu a chreithio ein nenlinell?
Ledled Cymru, mae mwy na 2,000 o domenni glo a thomenni segur—etifeddiaeth hyll, symbol grymus o'r hyn a gymerwyd oddi wrthym. Rydym wedi dod i arfer â hwy'n rhwystro ein golygfa. Ewch i bron unrhyw dref yn y Cymoedd ac fe welwch domen ar y gorwel uwch ei phen, fel ysbryd mewn hunllef. Ond ers tirlithriad Tylorstown yn 2020, y digwyddiad hwnnw a allai fod wedi bod mor drychinebus—ers y diwrnod hwnnw, rydym wedi dihuno eto i'r risg y mae'r tomenni hyn yn ei chreu. Nid dolur llygaid yn unig ydynt mwyach, ond hunllefau drws nesaf, bomiau amser tawel a allai ffrwydro unrhyw adeg.
Mae mwy na 300 o domenni yng Nghymru wedi'u categoreiddio'n rhai risg uchel. Nid ydym yn gwybod lle mae pob un ohonynt, a dyna pam y mae ein cynnig yn galw am ofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am leoliad y tomenni, er mwyn hyrwyddo ymddiriedaeth ac atebolrwydd. Cytunwn â Chomisiwn y Gyfraith y dylai'r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi. Rydym yn galw am ddatblygu, ariannu a chyflwyno systemau rhybudd cynnar fel y gellir rhybuddio cymunedau am ddiffygion posibl mewn tomenni, yn union fel gyda thrychinebau naturiol eraill fel daeargrynfeydd. Byddai monitorau o bell a ddefnyddir i ganfod gweithgarwch folcanig a tswnamïau yn synhwyro tirlithriadau ac yn seinio rhybudd, a gallai pobl sy'n byw yn y cyffiniau gael rhybuddion ar eu ffonau symudol. Byddai'r systemau hyn yn fendith, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog yn ei ymateb i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r systemau hyn a sut y byddent yn cael eu hariannu.
Mae ein cynnig yn sôn am adfer y safleoedd lle mae'r tomenni wedi'u lleoli, ac am yr angen am gynllun adfywio cenedlaethol ar gyfer yr ardaloedd hyn a gafodd eu hamddifadu cyhyd o fuddsoddiad neu ofal. Oherwydd nid yw dad-ddiwydiannu yng Nghymru, yn y DU, wedi dilyn y patrwm a welwyd mewn mannau eraill yn Ewrop. Yn Ffrainc a'r Almaen, cafodd diswyddiadau eu cynllunio a chynigiwyd cyfleoedd hyfforddi i lowyr mewn sectorau fel peirianneg sifil. Ond yn y DU, fel y mae un cyn uwch weithredwr Cymuned Glo a Dur Ewrop wedi'i roi, 'Nid ydynt yn edrych ymhellach na rhoi'r glöwr ar ei bensiwn'. Defnyddiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol a Llywodraeth Thatcher ddiswyddiadau i orfodi cytundeb ar gau pyllau glo, a chafodd y glowyr eu bradychu. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r dreth y byddai diweithdra'n ei gosod ar gymunedau cyfan. A phan gaeodd y pyllau glo, aeth rhywfaint o ysbryd y trefi hyn gyda hwy, ac felly un o'r grymoedd cymdeithasol a gwleidyddol ffyniannus pwysicaf yn hanes Cymru. Diflannodd grym y glowyr bron dros nos. Oherwydd roedd glowyr gymaint yn fwy na'r hyn a wnaent o dan y ddaear. Roedd yna gyfeillgarwch, wrth gwrs, cwlwm a oedd yn rhwymo dynion gyda'i gilydd. Ond uwchben y ddaear, roedd y grymoedd hynny'n cyfoethogi'r trefi yn neuaddau'r glowyr, eisteddfodau, y llyfrgelloedd, yr ysfa am addysg a diwylliant cyfarfod neuadd y dref, i gyd dan arweiniad glowyr a'u teuluoedd. Efallai eu bod wedi gweithio o dan y ddaear, ond roedd eu golygon ar y wybren.
Yn un o'i gerddi, mae Harri Webb yn hel atgofion am y glowyr yn dod allan o'r cwbs yng ngorsaf Caeharris. Dynion, meddent, gyda 90 y cant o lwch, a allai daro C uchaf fel pe na bai erioed wedi bodoli. Yr aberth a wnaeth y dynion hynny, Ddirprwy Lywydd, yr erchyllterau a ddioddefasant, ac roeddent yn dal i ganu.
Tan drychineb Aberfan yn y 1960au, nid oedd deddfwriaeth ar waith i ddarparu ar gyfer rheoli tomenni glo. Cymerodd y drychineb honno a marwolaeth 28 o oedolion a 116 o blant i San Steffan ystyried y cysgodion angau yr oeddent wedi'u gosod uwch ein pennau. Ond nid yw'r Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli bellach yn addas i'r diben hwn. Daeth i rym pan oedd y pyllau glo yn dal i fod yn weithredol, ac nid yw'r safonau a oedd yn ofynnol yn y 1980au a'r 1990au bellach yn addas yn oes newid hinsawdd. Nid oes unrhyw ddyletswydd i sicrhau diogelwch tomenni glo, ac nid oes gan gynghorau bŵer i ymyrryd hyd nes y ceir pryderon fod tomen yn ansefydlog. Ni ddylem fod yn aros i drychineb arall ddigwydd cyn i fesurau ataliol gael eu rhoi ar waith.
A phwy ddylai dalu'r bil? Mae San Steffan yn dadlau'n gyfleus fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Nid ydynt yn hoffi datganoli yno heblaw pan fydd yn eu hesgusodi rhag talu eu dyledion. Ddirprwy Lywydd, ni allwch ddatganoli'r gorffennol; ni allwch deithio drwy amser i osgoi gwirioneddau lletchwith. Gadawyd y tomenni hyn ar ôl o orffennol diwydiannol a daniodd fflyd y Llynges Frenhinol, a bwerodd y rheilffyrdd, a wnaeth ddwydianwyr Prydain yn gyfoethog ac a gadwodd y glowyr a'u cymunedau mewn tlodi. Creodd glo gyfoeth na ellir ei ddychmygu. Cafodd y cytundeb cyntaf gwerth miliwn o bunnoedd yn hanes y byd ei lunio yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn sgil glo'r Cymoedd. Ond ni wariwyd dim ohono ym Margod nac ym Mrythdir. Roedd gan ein cymoedd gyfoeth o lo, ond pa gyfoeth a adawyd ar gyfer ein dyfodol ni? Fe wnaethant daro bargen gyda Mamon, morgeisio iechyd y glowyr a'u diogelwch i gael elw cyflym a hawdd o'r pyllau, ond nid oedd yr ad-daliad ar y morgais hwnnw yn un a dalwyd gan berchnogion pyllau glo na chyfranddalwyr. Mae y tu hwnt i reswm, i foesoldeb, i unrhyw gwestiwn o wirionedd neu wedduster i ddadlau y dylai sefydliad nad oedd yn bodoli pan oedd y dynion yn llafurio ac yn marw dalu i lanhau'r llanastr a adawodd y diwydianwyr hynny ar ôl—y llwch sy'n duo'r awyr yn yr un modd ag y tagodd eu hysgyfaint.
Rydym yn sôn am symiau sylweddol o arian, wrth gwrs. Mae'r Awdurdod Glo wedi amcangyfrif y bydd y gost o wneud tomenni'n ddiogel rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y degawd nesaf. Ond a yw'n weddus ein bod yn cweryla ynghylch y taliad hwnnw? Oherwydd mae'r cymoedd hyn wedi cael cam ac wedi'u hamddifadu o barch yn rhy hir. Yn 1913—ac rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—collodd 439 o lowyr ac un achubwr eu bywydau yn nhrychineb pwll glo Senghennydd, y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Cafwyd ymchwiliad, gosodwyd cosbau, talodd y rheolwr ddirwy o £24, talodd y cwmni glofaol £10. Cyfrifwyd bod yn rhaid talu tua un swllt am bob dyn a bachgen a fu farw. Yn arian heddiw, byddai hynny'n gyfystyr â £13. Rwyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud na chafodd gweddwon gyflog diwrnod llawn hyd yn oed am y diwrnod y bu farw'r glowyr, am eu bod wedi marw cyn i'w shifft ddod i ben. Dyma'r etifeddiaeth y soniwn amdani—y baich a roddodd glo ar ein cymunedau. Mae gan San Steffan gyfle yma i wneud un peth bach i ddileu eu dyled, na chafodd erioed mo'i thalu, y ddyled sydd arnynt i'r glowyr a'u trefi—cyfle i wneud taliad, cydnabyddiaeth, fel na ddylent fod â chywilydd mwyach o'r atgofion hynny. O ran parch, Dduw mawr, dylent fanteisio ar y cyfle hwnnw.