Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 30 Mawrth 2022.
Mae ein cymunedau'n haeddu cyfiawnder, ac mae a wnelo hyn ag atebolrwydd a chywiro anghyfiawnder hanesyddol. A chredaf mai'r cwestiwn i sylwadau Janet Finch-Saunders yw: pwy a ddaeth yn gyfoethog drwy lo? A dyna graidd y mater a pham ein bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r anghyfiawnder hanesyddol. Mae'r dadleuon y sonioch chi amdanynt ynglŷn â fy nghyd-Aelodau'n cyflwyno'r pethau yr hoffem eu gweld yn cael eu datganoli yn ymwneud â dyfodol Cymru—