7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:54, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae ein treftadaeth ddiwydiannol wedi helpu i siapio ein cenedl. Gellir darllen hanes ein pobl yn ein tirwedd. Adeiladwyd cymunedau cyfan o amgylch diwydiant, roeddent yn darparu swyddi, bywoliaeth, ac ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin. Teimlwyd cyrhaeddiad ac effaith hanes Cymru ymhell y tu hwnt i'n ffiniau, gan ail-lunio'r economi fyd-eang a'r ffordd o fyw i bobl ddirifedi. Ond er y cyfan a roddodd, fe gymerodd; etifeddiaeth a ysbrydolodd ac a anafodd i'r un graddau, a adeiladodd fywydau a chymunedau, ond sydd wedi gadael cyflyrau iechyd cronig, tlodi parhaus a chreithiau amgylcheddol dwfn.