Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 30 Mawrth 2022.
Wel, Lywydd, fel mab, ŵyr a gor-ŵyr i löwr, mae'n fraint gennyf ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a chredaf, ar y cyfan, ei bod wedi bod yn ddadl ragorol. Mae bron i 40 y cant o domenni glo segur y DU yng Nghymru—40 y cant—ac mae tomenni glo'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau. Gwyddom fod yna bron i 2,500 o domenni glo segur, gyda 327 yn y categori uwch. Nawr, mae'r rhain yn gategorïau dros dro ac yn adlewyrchu'r perygl o achosi risg i ddiogelwch ac felly maent yn destun archwiliadau amlach. Nid yw'n golygu eu bod yn fygythiad uniongyrchol, fel y dywedodd Hefin David mor dda yn ei gyfraniad. A Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal yr arolygiadau hyn, gyda chynghorau'n cynnal y gwaith cynnal a chadw a nodwyd drwy'r arolygiadau.
Nawr, mae'r cynnig yn cyfeirio at 'domenni risg uchel', ond rhaid inni fod yn glir nad yw cael eich rhoi mewn categori risg uwch yr un fath â bod yn risg uwch, ac mae'r iaith a ddefnyddiwn yn bwysig. Fel y dywedodd Hefin David, mae dychryn pobl yn anghyfrifol. A nododd yr anawsterau mewn perthynas â chyhoeddi lleoliadau'r holl domenni yn gynamserol. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod hyn yn annerbyniol. Ond rydym wedi rhannu'r wybodaeth gydag awdurdodau lleol a fforymau lleol Cymru gydnerth i'w helpu i ddatblygu cynlluniau rheoli. Yr hyn a fyddai'n annerbyniol fyddai rhannu'r wybodaeth hon yn gyhoeddus pan nad yw'r holl waith wedi'i wneud, ac achosi braw, gofid a phryder, ac fel y crybwyllwyd, effeithio ar eiddo ac achosi llawer iawn o ofid pan allai llawer o'r rhain fod yn domenni eithaf diniwed. Mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Roedd sylwadau Janet Finch-Saunders yn hynny o beth yn go anghyfrifol ac ni roddwyd ystyriaeth ddigonol iddynt, os caf ddweud.
Soniwyd am y treialon. Gofynnodd Delyth Jewell pryd y bydd rhybuddion ar gael ar ffonau symudol er mwyn eu cyflwyno. Nawr, rydym yn treialu ystod o dechnolegau, ac mae 70 o'r tomenni risg uwch wedi'u cynnwys yn y treialon, ac mae'r rhain yn cynnwys pethau fel mesuryddion gogwydd a monitro symudiadau tir â lloeren. Bydd y rhain yn parhau tan tua 2024. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y rhybuddion yn cael eu rhoi i awdurdodau lleol ac na chânt eu gwneud yn gyhoeddus, oherwydd ar hyn o bryd mae peth o'r dechnoleg hon yn anwadal, mae'n annibynadwy, mae'n cael ei defnyddio am y tro cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn sicrhau ei fod yn gywir cyn i ni ddechrau ei wneud yn hygyrch i bawb.
Gadewch imi droi, os caf, at fater y cyllid. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei chyfrifoldeb am y broblem yn y bôn drwy ddyrannu £44 miliwn. Roedd hyn yn anhygoel, ac rwy'n credu y byddai ein cyndeidiau a oedd yn lowyr yn gallu adnabod pa un o'r areithiau a wnaed gan y Tori y prynhawn yma. Credaf fod camddealltwriaeth sylfaenol o bwysigrwydd emosiynol y mater hwn i'n cymunedau. Fel y gofynnodd Heledd Fychan a Delyth Jewell, pwy a elwodd o'r diwydiant hwn? Iawn, fe wnaeth ein cyndeidiau a fu'n gweithio yn y pyllau glo elwa rhywfaint, ond y perchnogion, lawer ohonynt y tu allan i Gymru, oedd piau'r elw. Roedd y cyfoeth o fudd i Brydain gyfan, nid y rhai a weithiodd amdano. Ac nid yw ond yn foesol gywir fod Llywodraeth y DU yn cydnabod y cyfraniad hwn. Ac mae'r ffaith bod gennym gyfres o Dorïaid, o Simon Hart i lawr, bellach yn golchi eu dwylo o hyn yn dangos bod rheswm pam y cânt eu gweld fel plaid ar gyfer Lloegr ac nid plaid ar gyfer Cymru.
Hyd yn hyn, rydym wedi gwario £1.6 miliwn ar arolygiadau. Bydd cost o £30 miliwn i'w codi i safon, a chost o £5 miliwn y flwyddyn arall i'w cynnal, a chost adfer wedyn o tua £600 miliwn, ac mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £9 miliwn inni gan gredu bod hynny'n ddigon ganddynt. Hoffwn ofyn iddynt fyfyrio ar hynny mewn gwirionedd. Nid dyna'r undeb sy'n rhannu yr ydym yn sôn amdano, a pho fwyaf y byddant yn chwarae triciau fel hyn, y mwyaf y mae'n tanseilio'r achos dros yr undeb. Felly, hoffwn ofyn iddynt feddwl yn ofalus iawn am y ffordd y maent yn chwarae eu rhan wrth ymdrin â'r hyn y mae diwydiant Prydain wedi ei adael ar ei ôl.
Soniwyd am effaith newid hinsawdd, ac mae'n enghraifft ddramatig o'r effaith y bydd patrymau tywydd newidiol yn ei chael ar ein cymunedau. Ni allai'r effaith ar y tomenni hyn a'r canlyniadau i'n cymunedau fod yn fwy dwys. Dyna pam fod angen inni liniaru effaith newid hinsawdd, yn ogystal ag addasu i'r effeithiau sydd eisoes yn anochel.
Gofynnodd Janet Finch-Saunders hefyd am yr awdurdod goruchwylio newydd ac a fydd yn annibynnol. Yn sicr, dyna yw ein bwriad, ond byddwn yn ymgynghori ar hyn fel rhan o'n Papur Gwyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yma'n ymateb i hwnnw.
Ceir nifer o opsiynau adfer gwahanol yn y tymor canolig, a bydd yr opsiwn gorau yn dibynnu ar y domen benodol, gan gynnwys ei statws risg a'i agosrwydd at dderbynyddion sensitif fel cymunedau. Enghraifft amlwg o safle tomen wedi'i adfer yw Coetir Ysbryd Llynfi, lle plannwyd dros 60,000 o goed. Felly, mae cyfle yma, yn ogystal â gorfod ymdopi ag effaith newid hinsawdd, i addasu ac ymdrin ag effaith yr argyfwng natur hefyd.
Felly, mae gennym gyfle i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau hyn, a bydd unrhyw raglen fwy hirdymor sy'n canolbwyntio ar adfer angen sicrhau ymgysylltiad trylwyr â'r cymunedau lleol i archwilio opsiynau ar gyfer manteision ehangach, ac rydym wedi diwygio'r cynnig y prynhawn yma i dderbyn hynny. Rydym yn derbyn ysbryd cynnig Plaid Cymru. Credwn fod un y Torïaid yn iawn cyn belled ag y mae'n mynd, ond mae darn sylfaenol ar goll am nad yw'n derbyn bod gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae. Bydd yna gyfleoedd i'n cymunedau os gwnawn bethau'n iawn, ond os na wnawn bethau'n iawn, Lywydd, ni fydd pobl yn maddau i ni.