7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:07, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Janet, fel y gellid rhagweld mewn gwirionedd, wedi mynd ati, yn anghywir, i gysylltu'r syniadau am ddatganoli pwerau presennol ac offer ar gyfer y dyfodol â cheisio gwadu cyfrifoldeb am gamweddau'r gorffennol. Nid wyf yn credu ei bod yn wastraff amser i'r Senedd geisio unioni hyn, ac yn eich calon, Janet, nid wyf yn credu eich bod chi'n credu hynny ychwaith. 

Gwnaeth Heledd y pwynt fod hyn yn ymwneud â chywiro anghyfiawnder hanesyddol.