Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 30 Mawrth 2022.
A soniodd Sioned am ddeuoliaeth, unwaith eto, yr hyn a adawyd ar ôl gan y tomenni hyn, etifeddiaeth sydd wedi ysbrydoli ac anafu. Cawsom ein hatgoffa nad tomenni glo yw'r unig domenni y mae angen eu gwneud yn ddiogel wrth gwrs, ac unwaith eto, am y niwed ymarferol a seicolegol y mae'r tomenni hyn yn ei achosi pan fo risg wedi'i nodi ond na ellir ei hunioni eto. Roedd hynny'n bwerus iawn.
Diolch, unwaith eto, i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb, am rannu rhagor o wybodaeth gyda ni am dreialon y systemau rhybuddio cynnar, rhai o'r opsiynau adfer, ac eto am ein hatgoffa nad yw hi ond yn foesol gywir y dylai San Steffan dalu.
Lywydd, pan fyddwn yn sôn am domenni sy'n anharddu llethrau ein mynyddoedd, rydym yn sôn am frychau, staeniau, marciau ar ein cof cyfunol, gwrthrychau cywilydd. Maent yn sicrhau bod elfennau mwyaf hyll, mwyaf creulon, a mwyaf peryglus mwyngloddio wedi amharu ar gymunedau ac wedi'u creithio. Mae mwyngloddio wedi'u marcio i gyd, ond mae rhai marciau'n treulio'n denau. Mae yna fynwent yn Llanfabon uwchben Nelson ac yn agos at ble rwy'n byw. Rwy'n adnabod bron bob twll a chornel oherwydd bod fy nwy fam-gu a fy nau dad-cu wedi'u claddu yno. Mae'n fynwent hardd. Mae'n ddigon cyffredin mewn llawer o ffyrdd, ond mae o leiaf un elfen sy'n ei gwneud yn wahanol. Ar hyd y wal ogleddol, heb fod ymhell o'r fynedfa, ceir rhes o 11 bedd. Yng nghanol y rhes honno mae heneb ffurfiol, ond yr un geiriau sydd i'w gweld ar bob un o'r beddau: 'Unknown. Albion explosion, 1894'. Nid yw'r heneb ei hun yn cynnwys yr un o enwau'r eneidiau coll hynny. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw olion i ddynodi pwy ydynt. Rwyf bob amser yn ei chael hi'n anodd deall sut y gall fod na fyddai unrhyw olion ar ôl o fod dynol. Efallai fod eu hanafiadau'n golygu nad oedd modd eu hadnabod, ond mae'n siŵr y byddai eu teuluoedd wedi rhoi rhestr o'r eneidiau coll a'r meirw. Efallai nad oedd gan yr un ohonynt unrhyw deulu. Efallai mai'r unig bobl a oedd yn eu hadnabod oedd y bobl a fu farw gyda hwy.
Bu farw cyfanswm o 219 o ddynion a bechgyn yn nhrychineb glofa'r Albion, ond cafodd yr 11 hyn eu hamddifadu ymhellach ar ôl eu marwolaeth o'r hawl fwyaf sylfaenol honno—yr hawl i gael enw, i gael eu hadnabod a'u cofio. Chwarter canrif yn ddiweddarach, dewisodd Rudyard Kipling yr ymadrodd 'hysbys i Dduw' ar gyfer beddau milwyr anhysbys y Gymanwlad. Mae yr un mor addas i'r 11 dyn hyn, gan na wnaeth unrhyw fod meidrol alaru amdanynt. Ni wnaethant adael unrhyw ôl, na marc, nac arwydd eu bod erioed wedi byw, anadlu, llafurio a marw. Mae creulondeb gwrthnysig yn y ffaith ein bod, yn y tomenni hyn, yn cael ein hatgoffa'n gyson am ddiwydiant sydd, ar ei adegau gwaethaf, wedi dileu dynion a bechgyn oddi ar wyneb y ddaear heb adael unrhyw ôl. Ac fe gafodd y rhai a wnaeth fyw, y rhai lwcus, y llwch, fel y cyfeiriwyd ato—yn y Cymoedd, nid yw llwch yn golygu rhywbeth y byddwch yn ei sychu oddi ar gelfi; dyna oedd yr enw am y clefyd llesteiriol a wnaeth andwyo cenedlaethau o ddynion a'u gadael yn ymladd am eu hanadl. Dyna etifeddiaeth mwyngloddio. Dyna hefyd yw'r tomenni hyn, y creithiau sy'n cuddio o flaen ein llygaid. Ni allwn ddwyn i gof y rhai sy'n hysbys i Dduw yn unig, ond gallwn anrhydeddu'r cof amdanynt, ac anrhydeddu aberth yr holl lowyr a phawb a gollodd gymaint yn y blynyddoedd hynny. Ni allwn ddileu'r gorffennol, ond gallwn o leiaf geisio gwneud iawn am bethau. Rwy'n gobeithio y caiff y cynnig hwn ei dderbyn. Rwy'n gobeithio, yng nghoridorau San Steffan, y gellir sicrhau rhywfaint o gyfiawnder o'r diwedd.