Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheolau mewnfudo newydd ar gyfer pobl y mae'r rhyfel yn Wcráin yn effeithio arnynt. Bydd y rhain yn darparu caniatâd cyfyngedig i aros i bobl sy'n cael caniatâd i ddod i'r DU o Wcráin, a'r rhai a oedd yma cyn i'r rhyfel ddechrau. Byddan nhw, felly, yn osgoi gofynion arferol rheoli mewnfudo. Mae hyn yn golygu nad oes cost i wneud cais, ac nid oes angen dangos annibyniaeth ariannol, Saesneg, llythrennedd na bwriad sefydlog i aros yn y DU drwy'r prawf preswylio arferol. Gan fod Cymru'n genedl noddfa, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi'r dull hwn.
Mae gan hyn ganlyniadau dilynol i'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw wedi'u cynllunio i helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin i gael gafael ar dai neu gymorth tai pan fyddant yn cyrraedd. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n deall pam yr ydym wedi cyflwyno rheoliadau'n gyflymach drwy brosesau'r Senedd nag arfer. Mae llawer o bobl sy'n ffoi o Wcráin eisoes yn y wlad, ac rydym eisiau sicrhau bod eglurder a sicrwydd yn y gyfraith i'w cefnogi.
Rydym yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau mewn llai o amser nag a gymerir fel arfer. Nid yw hwn yn gais yr ydym wedi'i gymryd heb ystyriaeth briodol, ond mae brys y sefyllfa'n mynnu bod y dull hwn yn osgoi anfantais bosibl i'r rhai a allai wynebu oedi wrth ddod o hyd i gartref neu gymorth pe baen nhw'n dod yn ddigartref.
Bydd Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn rhoi cymhwysedd i bobl sy'n gwneud cais llwyddiannus i gynlluniau Wcráin Llywodraeth y DU gael cymorth tai a thai. Mae cynlluniau Wcráin yn cwmpasu aelodau teuluol uniongyrchol ac estynedig gwladolion Prydeinig sy'n dod o Wcráin i aros yn y DU, unrhyw berson sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i gynllun noddi Cartrefi i Wcráin, a'r rhai sydd eisoes wedi cael caniatâd i fod yn y DU cyn 18 Mawrth eleni sydd wedi cael caniatâd i ymestyn eu harhosiad yn y DU o dan gynllun ymestyn Wcráin.
Bydd y rheoliadau'n hepgor y prawf preswylio arferol ar gyfer pobl o Wcráin sy'n dod i Gymru ac yn gwneud yr un peth ar gyfer dychwelyd gwladolion Prydeinig a phobl nad ydynt yn destun rheolaeth fewnfudo sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Bydd hyn yn golygu y gallant gael budd-daliadau a gwasanaethau, gan gynnwys tai neu gymorth tai, o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd yn hytrach na gorfod aros un i dri mis i fodloni'r prawf.
Llywydd, mae cymdogion Wcráin wedi dangos haelioni eithriadol o ran y croeso y maen nhw wedi'i roi i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel. Bydd y rhan fwyaf o bobl o Wcráin eisiau dychwelyd cyn gynted â phosibl ac aros mor agos ag y gallan nhw i'w cartrefi. Ond mae maint y gwrthdaro yn golygu bod yn rhaid i bob gwlad yn Ewrop gynnig eu cefnogaeth a'u cysur. Byddwn yn gwneud hyn hefyd. Mae Cymru'n genedl noddfa, felly drwy'r rheoliadau hyn, gadewch i ni ei gwneud yn glir i bobl Wcráin sy'n dod i Gymru ac sydd angen ein cymorth y byddan nhw'n ei gael. Diolch.