Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 26 Ebrill 2022.
'mae'n amlwg bod awydd am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws siambr y Senedd. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn ar ran y gymuned B/byddar'.
Er fy mod wedi parhau i gyflwyno ceisiadau am Fil Aelod preifat yn y Senedd hon yn unol â hynny, nid wyf wedi bod yn llwyddiannus eto.
Nododd fy nghynnig y byddai fy Mil arfaethedig yn sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Cysylltodd llawer o bobl fyddar a grwpiau dan arweiniad pobl fyddar ledled Cymru â mi i gefnogi hyn, gan ddweud wrthyf, er bod Llywodraeth Cymru yn datblygu siarter BSL newydd i Gymru, fod fy Mil arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Dim ond un person a ysgrifennodd i wrthwynebu.
Roeddwn, felly, wrth fy modd o glywed yr AS Llafur Rosie Cooper yn cael ei chyfweld ar y radio y llynedd am ei Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Senedd y DU, a noddir ar y cyd gan yr Arglwydd Holmes Ceidwadol o Richmond. Yn dilyn ei Ddarlleniad Cyntaf ar 16 Mehefin 2021, cafodd Bil Iaith Arwyddion Prydain i roi statws cyfreithiol llawn i BSL a phobl fyddar fynediad at wasanaethau a gwybodaeth hanfodol yn eu hiaith gyntaf Ail Ddarlleniad diwrthwynebiad yn Nhŷ'r Cyffredin ar 28 Ionawr, ar ôl sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU, ac fe'i pasiwyd ar ôl ei Drydydd Darlleniad ar 18 Mawrth.
Wel, yn ôl 'Adolygiad Annibynnol o'r Ddarpariaeth BSL i Oedolion yng Nghymru' yn 2020, mae tua 7,500 o bobl yn defnyddio BSL yng Nghymru, gan gynnwys tua 4,000 B/byddar. Ac mae 151,000, gan gynnwys dros 87,000 o bobl fyddar y mae BSL yn ddewis iaith iddynt, yn defnyddio'r iaith ledled y DU. Er bod Bil y DU yn creu dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL yn disgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd, mae Bil y DU yn eithrio'n benodol adroddiadau ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban, gyda chymalau 2 a 3 o'r nodiadau esboniadol yn datgan bod
'Y setliadau datganoli ar gyfer Cymru a'r Alban yn darparu bod "hyrwyddo cyfle cyfartal" yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, mae eithriadau sylweddol i hyn, sydd yn ymarferol yn golygu bod annog cyfle cyfartal yn fater sydd wedi'i ddatganoli.'
Nid yw'r Bil yn ymestyn y ddyletswydd adrodd na chanllawiau i'r gweinyddiaethau datganoledig, h.y. Llywodraethau, yr Alban a Chymru.
Gosododd Llywodraeth Cymru y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 8 Mawrth, o dan Reol Sefydlog 29.2, sy'n nodi:
'mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn ar gyfer y DU gan fod y Bil yn hybu cyfle cyfartal mewn ffordd sy’n gymesur â'n safbwynt ni ac nad yw'n cynnig unrhyw ymyrraeth uniongyrchol â swyddogaethau datganoledig. Felly, rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i gynnwys y darpariaethau hyn yn y Bil.
Aiff ymlaen i ddweud,
'Nid yw'r Bil yn effeithio ar weithrediad unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol ac nid yw'n gosod unrhyw rwymedigaethau ar Lywodraeth Cymru nac ar Awdurdodau datganoledig eraill yng Nghymru.....Mae'r Bil yn rhoi effaith gyfreithiol i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith yng Nghymru drwy osod dyletswyddau a rhwymedigaethau ar awdurdodau a gadwyd yn ôl'— h.y. heb ei ddatganoli—
'ac ni fyddai dim i atal y Senedd rhag deddfu mewn ffordd debyg i osod dyletswyddau a rhwymedigaethau tebyg ar Awdurdodau datganoledig Cymru.'
Mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar ba gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog ar 11 Mawrth:
'Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel iaith Cymru o 2004 ymlaen. Mae'r Bil BSL yn cynnwys darpariaethau i gydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.'
Gan ychwanegu,
'Comisiynwyd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA) i gynnal archwiliad o bolisïau BSL Llywodraeth Cymru a'r gwasanaethau a ddarperir gyda'r bwriad o ymrwymo i'w Siarter BSL. Arweiniodd yr archwiliad at Adroddiad yn darparu argymhellion lefel uchel. Mae'r BDA a'r swyddogion yn trafod y canfyddiadau a byddant yn cwblhau'r Adroddiad yn derfynol.'
Ac, yn allweddol i hyn:
'Bydd ystyried yr angen am ddeddfwriaeth benodol i Gymru yn rhan o'r trafodaethau hyn.'
Felly, gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, yn debyg o bosibl i Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain yr Alban (Yr Alban) 2015 neu'r Ddeddf sy'n cael ei hystyried yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Cysylltais â chadeirydd y BDA a'u holi am y datganiad hwnnw, ac mae wedi dweud wrthyf heddiw—. Gwnaf orffen drwy ei ddyfynnu:
Rydym wedi gweithio'n galed i ymgysylltu ag Adrannau Llywodraeth Cymru ac aelodau o Gymuned Byddar Cymru. Gwnaeth Llywodraeth Cymru rai sylwadau ar adroddiad drafft terfynol Archwiliad BSL ac felly, byddant yn cywiro ac yn ailgyflwyno adroddiad terfynol Archwiliad BSL cyn bo hir. Rwyf yn deall y bydd yr adroddiad yn mynd at y Gweithlu Hawliau Anabledd ar gyfer ystyriaethau ac argymhellion. Cyflwynodd BDA Cymru gynnig newydd ar gyfer y cam nesaf ar Siarter BSL yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y byddant yn ffafrio'r cynnig. Unwaith eto, rydym yn credu yn gryf fod Cymuned Pobl Fyddar Cymru eisiau Deddf BSL (Cymru), felly byddai'n wych pe gallen nhw gael gwybod gan Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon pa gynnydd y maen nhw'n ei wneud ar y ddeddfwriaeth BSL ac ISL—Iaith Arwyddion Iwerddon—yno.
Hoffai BDA Cymru barhau i weithio gyda Mark, ASau eraill a swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno Bil BSL (Cymru) trawsbleidiol'.
A wnaiff y Gweinidog ddweud felly a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bil BSL (Cymru) yn ystod tymor y Senedd hon pan fydd y BDA, fel y gwn yn awr y byddan nhw'n ei wneud, yn argymell i chi eich bod yn gwneud hynny?