Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynigion. Mae'n fraint agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), a chynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol. Fel y mae Aelodau wedi dweud droeon yn y Siambr hon, mae treth yn faes pwysig a chynyddol yn y setliad datganoli. Fel Llywodraeth Cymru, mae angen arnom ni, fel pob gweithrediaeth, gyfres gymesur ac effeithiol o ddulliau i reoli'r pwerau trethu hynny'n strategol ac yn effeithiol er mwyn diogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus. Mae angen i'r Senedd hon, fel pob senedd, oruchwylio'n gryf ac yn gadarn ddefnydd y dulliau hynny a all roi cydsyniad a chyfreithlondeb i'r pwerau hynny. Mae hynny mor hanfodol i'r broses ddemocrataidd. Er y bydd angen mwy na'r Bil hwn i'n cael ni i'r sefyllfa honno, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn gam cyntaf pwysig ar hyd y ffordd at y system gydlynol a thryloyw y mae ei hangen arnom i gefnogi datganoli trethi yng Nghymru.
Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeiryddion ac Aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu'n drylwyr ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, ac am eu hadroddiadau cynhwysfawr. Byddaf yn dweud ychydig mwy mewn munud am y ffyrdd yr wyf yn credu y gallwn ni gydweithio'n gadarnhaol i gryfhau'r Bil yn ystod ei daith drwy'r Senedd. Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni ac sydd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu'r Bil, gan ddarparu eu harbenigedd, eu her a'u safbwynt. Mae hynny wedi cyfrannu at ein ffordd o feddwl wrth i ni ddatblygu'r Bil. Mae'r ddau bwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig, ac rwy'n falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw. O ystyried natur fanwl adroddiadau'r ddau bwyllgor, a nifer yr argymhellion a wnaed, nid yw'n bosibl ymateb i bob un ohonyn nhw'n unigol heddiw. Felly, byddaf i'n ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn dilyn y ddadl.
Byddaf yn dechrau gyda'r hyn sydd, yn fy marn i, yn dir cyffredin i bob un ohonom ni—hynny yw, sicrhau bod gennym ni drefniadau effeithiol i ddiogelu refeniw o ganlyniad i newidiadau sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Bwriad y Bil yw rhoi'r amddiffyniad amserol hwnnw wrth barchu'r Senedd a'i swyddogaeth oruchwylio briodol. Nid y Bil hwn yw'r gair olaf nac ateb tymor hwy i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud newidiadau brys i ddeddfwriaeth treth. Yn hytrach, mae'n gam pragmatig i'w gymryd yn awr wrth i ni weithio drwy oblygiadau llawn datganoli trethi yng Nghymru. Fel y dywedais, mae datganoli trethi ei hun yn newid cyfansoddiadol cymharol ddiweddar, gyda threthi datganoledig ond yn dechrau gweithredu bedair blynedd yn ôl. Wrth i'r datganoli hwnnw aeddfedu, hoffwn i weithio gyda'r Senedd hon i'n symud tuag at fframwaith ar gyfer gwneud newidiadau treth sy'n iawn i ni yma yng Nghymru. Yn y pen draw, gallai hyn edrych yn debycach i drefniadau'r DU o Fil cyllid blynyddol, er na fyddai hyn ynddo'i hun yn cynnig ateb llawn. Mater i ni drwy weithio gyda'n gilydd fydd penderfynu pa drefniadau ac offerynnau sy'n iawn i Gymru.
Rwyf wedi gwrando ac wedi myfyrio'n ofalus ar y pwyntiau cyfansoddiadol pwysig a gafodd eu gwneud o ran y Bil hwn, ac yn enwedig y rhai hynny gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar wahanu'r pwerau rhwng y ddeddfwrfa a'r weithrediaeth. Mae'r ystyriaeth honno wedi dylanwadu'n sylweddol ar y gwelliannau yr wyf i'n bwriadu eu cyflwyno yn y camau craffu sydd ar ddod. Rwy'n credu bod modd ystyried y ddeddfwriaeth hon yn gyfrwng tymor byrrach pwysig wrth ini ystyried yr atebion tymor hwy hynny y mae'n rhaid ymchwilio iddyn nhw a'u gwerthuso'n drylwyr—gwaith rwy'n credu y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd fel Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r Senedd hon a'i phwyllgorau, yn enwedig yng nghyd-destun Senedd fwy. Felly, rwy'n falch o dderbyn argymhellion y ddau bwyllgor i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r adroddiad hwn ar ddechrau tymor nesaf y Senedd.
Yn ogystal, rwy'n barod i fynd ymhellach. Fy mwriad yw cyflwyno gwelliant yn ystod hynt y Bil na cheir gwneud unrhyw reoliadau newydd drwy ddefnyddio'r pŵer hwn i wneud rheoliadau ar ôl pum mlynedd o'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, rwyf i yn credu ei bod yn bwysig rhoi cyfle i'r Senedd ymestyn oes y Ddeddf hyd at bum mlynedd arall os yw'r Senedd honno o'r farn y dylai'r pwerau barhau mewn grym ar gyfer y cyfnod estynedig terfynol hwnnw. Caiff hyn ei gyflawni wrth i Aelodau bleidleisio i gymeradwyo Gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru. Bwriad y camau hyn yw sicrhau ein bod ni'n barod i gymryd cam nesaf y cytunwyd arno ar ein taith ddatganoli ar adeg benodol yn y dyfodol. Yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd rhwng nawr a phryd hynny, os bydd nifer y trethi datganoledig yn cynyddu neu os oes mwy o welliannau i ddeddfwriaeth treth, yna mae'n ddigon posibl y bydd achos dros Fil cyllid rheolaidd. Fodd bynnag, mae angen o hyd i ni ystyried dull ar gyfer gwneud newidiadau brys y tu allan i unrhyw gylch Bil cyllid Cymru. Yn hollbwysig, rwy'n ymrwymo heddiw i weithio gyda phwyllgorau i feddwl drwy'r cwestiynau a'r heriau pwysig hyn.
Hoffwn i droi at faes allweddol arall y mae'r Llywodraeth yn cytuno sy'n arwain at yr angen am welliant. Rwyf i wedi ystyried yn ofalus farn y pwyllgorau a'r rhanddeiliaid ynglŷn â'r gallu i gyfyngu ar newidiadau ôl-ddeddfwriaethol yn ôl i ddyddiad y cyhoeddiad cychwynnol. Rwy'n falch o dderbyn yr egwyddor arweiniol ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i gyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i ddeddfu'n ôl-weithredol hyd at ddyddiad cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mewn achosion lle gallai newid, ac mae hynny'n gost ariannol, effeithio'n negyddol ar drethdalwyr. Fodd bynnag, rwyf o'r farn y dylai unrhyw gyfyngiad o'r fath barhau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer i wneud newidiadau gydag effaith ôl-weithredol ymhellach yn ôl na dyddiad unrhyw gyhoeddiad lle mae'r newid hwnnw'n lleihau'r dreth a godir, er enghraifft pe bai ymateb i newid yng nghyllideb y DU yn sicrhau y gall ein trethdalwyr elwa ar ostyngiad ar yr un pryd â threthdalwyr yn Lloegr. Yn gyffredinol, rwyf i wedi ystyried yn ofalus ac wedi derbyn argymhellion allweddol adroddiadau'r pwyllgor ac rwy'n bwriadu gwneud gwelliannau pwysig i'r Bil o ganlyniad i hynny.
Gan symud at yr argymhellion na allaf eu derbyn, rwyf i yn bwriadu ysgrifennu mewn ymateb i bob un o'r rhain yn dilyn y ddadl. Rwy'n credu y byddai rhai o'r argymhellion hynny'n tresmasu ar nod sylfaenol y ddeddfwriaeth i ddarparu dull hyblyg ac ystwyth o ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein Deddfau trethi Cymru. Mae eraill yr wyf i wedi ymateb iddyn nhw mewn ffyrdd eraill; yn benodol, nodais i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid enghreifftiau o sut y mae modd defnyddio'r pŵer ar gyfer Deddfau trethi Cymru o ran profion y pedwar diben, er enghraifft. I gloi, Llywydd, rwy'n derbyn nad oes modd ac na ddylid ystyried y Bil hwn fel y gair olaf am y fframwaith sydd ei angen arnom i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth treth. Fodd bynnag, mae'r cynigion yr wyf i wedi'u hamlinellu heddiw yn ceisio sicrhau y gallwn ni ddarparu ateb deddfwriaethol pragmatig ar gyfer yr amgylchiadau presennol ar ein taith ddatganoli wrth i ni fynd i'r afael â'r cwestiynau tymor hwy hyn. Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil. Diolch.